Modiwl VPC-2408:
Addysg Grefyddol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Philosophy and Social Sciences
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Joshua Andrews
Amcanion cyffredinol
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i rôl Addysg Grefyddol ym Mhrydain heddiw, gan ddarparu myfyrwyr â’r sgiliau academaidd a galwedigaethol angenrheidiol i fynd ymlaen i gwblhau rhaglen TAAR. Dechreuir trwy archwilio beth yw pwrpas Addysg Grefyddol a pham fod ganddi le unigryw yn fframwaith addysgiadol Prydain. Wrth i’r modiwl ddatblygu, byddem yn archwilio cyfrifoldebau proffesiynol athro/awes Addysg Grefyddol gan fanylu ar baratoi gwersi, cyflwyno gwersi ac asesu disgyblion. Anogir myfyrwyr drwy gydol y cwrs i wella eu gwybodaeth am Grefyddau’r Byd drwy gwblhau tasgau wythnosol a fydd yn eu helpu i baratoi ar gyfer y pynciau amrywiol y gellir eu dysgu fel rhan o faes llafur Addysg Grefyddol. Tua diwedd y cwrs, bydd myfyrwyr yn archwilio heriau addysgu Addysg Grefyddol ar lefelau Cyfnod Allweddol 4 a 5, a rhoddir y cyfle iddynt drefnu gweithdai adolygu ar gyfer myfyrwyr Safon Uwch.
Cynnwys cwrs
Pwrpas Addysg Grefyddol – bydd adran hon y cwrs yn archwilio rôl Addysg Grefyddol o fewn fframwaith addysgiadol Prydain, gan fanylu ar sut y dylid trin astudio crefydd ar lefel cynradd ac uwchradd. Bydd disgwyl i fyfyrwyr drafod, yn arbennig, rôl moeseg, athroniaeth a safbwyntiau anghrefyddol yn Addysg Grefyddol. Materion cyfoes Addysg Grefyddol – bydd myfyrwyr yn cloriannu pwrpas Addysg Grefyddol o fewn addysg gynradd ac uwchradd, gan bennu rôl y pwnc o fewn arloesydd addysgiadol ehangach megis SMSC, Gwerthoedd Prydeinig a’r Cwricwlwm Cymreig. Cyfrifoldebau Proffesiynol – bydd yr agwedd hon ar y cwrs yn archwilio llenyddiaeth bedagogaidd er mwyn pennu beth sy’n gwneud ‘gwers Addysg Grefyddol dda’. Bydd myfyrwyr yn trafod syniadau megis addysgu myfyriwr canolog, profiadau addysgiadol arbrofol ac athroniaeth i blant, gan ystyried y modd y gallai’r holl strategaethau addysgu greu amgylchedd dysgu effeithiol. Bydd myfyrwyr hefyd yn archwilio rôl asesiad mewn Addysg Grefyddol ar draws y Cyfnodau Allweddol. Crefyddau’r Byd – bydd myfyrwyr yn archwilio rhai o hanfodion ac arferion canolog chwe chrefydd fawr er mwyn i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â chynnwys y meysydd llafur TGAU a Safon Uwch newydd.
Meini Prawf
ardderchog
Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
da
Cyflwynwyd gwaith da iawn sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
trothwy
Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
C- i C+
Cyflwynwyd gwaith da sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad da. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
Canlyniad dysgu
-
Dangos dealltwriaeth soffistigedig am gymhlethdod crefyddol, er enghraifft, yn y berthynas rhwng credoau crefyddol penodol, testunau, ymarferion a sefydliadau, a fframweithiau cymdeithasol a diwyllianol, normau, estheteg a dyheadau ehangach.
-
Dangos gallu i gymhwyso dysgu ffurfiol i gyd-destunau cymdeithasol a galwedigaethol cadarn.
-
Cloriannu ac archwilio ffynonellau cynradd ac eilaidd, gan gynnwys deunyddiau o Ddiwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol, Athroniaeth, Astudiaethau Addysgiadol a lle bo'n briodol o bynciau perthnasol megis y Dyniaethau neu Wyddorau Cymdeithasol.
-
Cymhwyso mewnwelediad, themâu a dadleuon am ddiwinyddiaeth, astudiaethau crefyddol, ac athroniaeth yn berthnasol i gymdeithas ehangach a chyd-destunau disgyblaethol, gan gynnwys Astudiaethau Addysgiadol a Gwleidyddiaeth.
-
Dangos ymwybyddiaeth a gallu i archwilio'n feirniadol ystod o themâu, dadleuon a methodoleg o fewn Addysg Grefyddol, a lle bo'n briodol o bynciau megis y Dyniaethau neu Wyddorau Cymdeithasol a chloriannu ysgolheictod beirniadol cysylltiedig.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
LLAFAR | Cyflwyniad Llafar | Bydd myfyrwyr yn cyflwyno cyflwyniad llafar am agwedd ar faes llafur Safon Uwch yr ystyrir yn heriol i'w haddysgu. |
30 |
LLYFR LOG NEU BORTFFOLIO | Portffolio Addysgiadol | Disgwylir i fyfyrwyr gynhyrchu athroniaeth addysgu â chyferiiadau penodol at addysgu Addysg Grefyddol, a fydd yn tanlinellu eu dealltwriaeth am rôl Addysg Grefyddol fel rhan o gwricwlwm eang a chydradd. Bydd myfyrwyr yn adlewyrchu ar eu sgiliau personol a phrofiadau er mwyn tanlinellu eu priodoldeb ar gyfer gyrfa yn addysgu Addysg Grefyddol. |
35 |
ARDDANGOSIAD/YMARFER | Traethawd | Bydd myfyrwyr yn paratoi cynllun gwers y gellid ei roi ar waith gan naill ai athro ysgol gynradd neu uwchradd sy'n arbenigo mewn Addysg Grefyddol. Bydd myfyrwyr hefyd yn darparu sylwebaeth gryno ar eu cynllun gwers, gan esbonio'r modd y mae'n berthnasol i ymchwil addysgeg diweddar ym maes Addysg Grefyddol. |
35 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Disgwylir i fyfyrwyr fynychu dwy ddarlith un awr o hyd yn wythnosol drwy gydol y semester. |
22 |
Seminar | Cynhelir seminar un awr o hyd yn wythnosol. |
11 |
Private study | Darperir myfyrwyr â deunydd darllen yn wythnosol. Bydd y deunydd hyn yn gysylltiedig â phynciau penodol a drafodir mewn darlithoedd a seminarau dilynol. Bydd disgwyl i fyfyrwyr hefyd ymgymryd ag ymchwil fanwl er myn cwblhau eu haseiniad ysgrifenedig. Fe'u hanogir i ymchwilio ystod eang o gyhoeddiadau ar-lein ac yn y llyfrgell. Bydd detholiad o ffilmiau dogfen yn cael eu darparu a disgwylir i fyfyrwyr eu gwylio o fewn fframwaith amser benodol. |
167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Articulacy in identifying underlying issues in a wide variety of debates.
- Precision of thought and expression in the analysis and formulation of complex and controversial problems.
- Sensitivity in interpretation of religious and philosophical texts drawn from a variety of ages and/or traditions.
- Clarity and rigour in the critical assessment of arguments presented in such texts.
- The ability to use and criticise specialised religious and philosophical terminology.
- The ability to abstract and analyse arguments, and to identify flaws in them, such as false premises and invalid reasoning.
- The ability to consider unfamiliar ideas and ways of thinking, and to examine critically presuppositions and methods within the disciplines of philosophy and religion.
Adnoddau
Rhestr ddarllen
Baumfield, V. (2002)Thinking Through Religious Education Chris Kingston Publishing Broadbent, L. Brown, A. (2002) Issues in Religious Education, Routledge Grimmit, M. (2000) Pedagogies of Religious Education: Case studies in the research and development of good pedagogic practice in RE McCrimmon Stern, J. (2006) Teaching Religious Education. Continuum Rivett, A. (2007) Teacher’s Handbook of Religious Education RE Today
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 2 (BA/CCCJ)
- L401: Polisi Cymdeithasol year 2 (BA/PC)
- LM4X: BA Polisi Cymdeithasol & Criminology and Criminal Justice year 2 (BA/PCCCJ)
- LL5K: Polisi Cymdeithasol & Health and Social Care year 2 (BA/PCHSC)
- VV56: BA Philosophy and Religion year 2 (BA/PHRE)
- 3VQV: BA Philosophy and Religion and English Literature year 2 (BA/PREN)
- VVR1: BA Philosophy and Religion and French year 2 (BA/PRF)
- VVR2: BA Philosophy and Religion and German year 2 (BA/PRG)
- VVV1: BA Philosophy and Religion and History year 2 (BA/PRH)
- VVR3: BA Philosophy and Religion and Italian year 2 (BA/PRI)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 2 (BA/PRM)
- VVR4: BA Philosophy and Religion and Spanish year 2 (BA/PRS)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- VVV2: BA Philosophy and Religion and Welsh History year 2 (BA/PRWH)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 2 (BA/SPWH)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LVL1: BA Pol Cymd/Han Cymru year 2 (BA/SPWWH)
- L3LK: BA Cymd gyda Phol Cymd year 2 (BA/SSPW)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 2 (LLB/LPR)
- L3L5: MSocSci Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol year 2 (MSOCSCI/CYMD)