Modiwl WMC-4041:
Cerddoleg Gyfredol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Mr Stephen Rees
Amcanion cyffredinol
Disgrifiad: Mae Cerddoleg yn ychwanegiad eithaf hwyr i ddisgyblaethau academaidd, a chaiff Cerddoleg ei diffinio fel ‘astudiaeth cerddoriaeth’ fel y’i deëllir yn fras. Yn syml, er bod y disgrifiad hwn yn swnio’n syml, mae cerddoriaeth fel gwrthrych astudio wedi ennyn amrywiaeth o ddulliau methodolegol gwahanol, rhai’n gynhenid i gerddoleg (dadansoddi), ac eraill wedi’u benthyg o ddisgyblaethau eraill (philoleg, beirniadaeth lenyddol, estheteg, cymdeithaseg, anthropoleg, ac acwsteg). Mae’r cwrs yn bwriadu gwneud myfyrwyr yn gyfarwydd ag ystod o fethodolegau a dadleuon methodolegol sy’n cael effaith hanfodol ar yr ymchwil gyfredol a wneir yn y maes (e.e. hanesyddiaeth, dadansoddi, ‘cerddoleg newydd’, cenedl, strwythuriaeth ac ôl-strwythuriaeth, ac ati). Mae darlleniadau dethol o ysgrifau ysgolheigaidd yn cyflawni dau bwrpas: yn gyntaf, fe’u defnyddir i sefydlu’r cysyniadau a’r dulliau gweithredu allweddol sy’n nodweddiadol o’r dulliau gweithredu unigol, ac sydd felly’n paratoi’r ffordd ar gyfer dealltwriaeth o destunau sy’n defnyddio jargon. Yn ail, maent yn sail i asesiad beirniadol, sy’n cydnabod bod system methodolegau yn bodoli mewn cyd-destunau hanesyddol, ac yn ceisio gwerthuso eu manteision a’u cyfyngiadau. Bydd hyn yn archwilio disgwrs cerddoleg gyfredol, ac yn paratoi myfyrwyr i ddefnyddio’r methodolegau yn eu hymchwil eu hunain. Bydd yr arfer o drafodaeth feirniadol yn cael ei chyflwyno drwy sesiynau trafod ar yr arddulliau arloesol a dadleuol o weithredu, lle bydd myfyrwyr yn cymryd yr awenau. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i’r tueddiadau diweddaraf mewn cerddoleg, perfformio, a chyfansoddi drwy gyfres seminarau ymchwil rheolaidd yr Ysgol Cerddoriaeth Drama a Pherfformio, sy’n darparu fforwm ar gyfer ymchwil arloesol gan ysgolheigion ac artistiaid o Fangor a’r tu hwnt.
Cynnwys cwrs
YYYYYYY
Canlyniad dysgu
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Bibliography | 30.00 | ||
Cyflwyniad | 20.00 | ||
Traethawd | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3AH: MA Music year 1 (MA/MUS)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3BJ: MA Music with Education year 1 (MA/MUSED)