Modiwl WMC-4108:
Ymchwilio i Gerddoriaeth
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr John Cunningham
Amcanion cyffredinol
Y nodau ac amcanion yw:
- Galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau meddwl lefel uchel sy'n angenrheidiol i astudio cerddoriaeth ar lefel Meistr.
- Archwilio ystod o repertoire cerddorol mewn dyfnder sylweddol.
- Archwilio ystod eang o faterion a dadleuon o bwysigrwydd cyfoes mewn cerddoriaeth.
- Galluogi myfyrwyr i ystyried y cysylltiadau rhwng gwahanol feysydd ymholi ac ymarfer mewn cerddoriaeth, ac elwa o'r rhain yn eu gweithiau eu hunain.
Cynnwys cwrs
Mae'r modiwl hwn yn datblygu sgiliau meddwl ar lefel uchel am gerddoriaeth, sy'n hanfodol i astudio ar lefel Meistr mewn cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio. Trwy gyfrwng ystod o repertoire cerddorol, mae'r modiwl yn archwilio amrywiaeth o faterion a dadleuon sy'n berthnasol iawn i weithgaredd cerddorol uwch heddiw, o fewn y byd academaidd a thu hwnt. Mae'n annog pob myfyriwr - boed yn gerddolegwr, cyfansoddwr neu berfformiwr - i ystyried sut mae eu maes gweithgaredd yn cael ei lywio'n uniongyrchol gan feysydd eraill, ac i gynhyrchu gwaith yn eu meysydd arbenigol sy'n adlewyrchu'r gyd-ddibyniaeth hon. Gall pynciau a drafodir gynnwys y canlynol:
• addasu; • dadansoddi; • cynulleidfaoedd a sefydliadau; • awduraeth, unigoliaeth, ac eiddo deallusol; • golygiadau; • uchel ael vs isel ael; • cerddoriaeth a'r byd digidol; • cerddoriaeth i blant; • cerddoriaeth mewn theatr a ffilm; • perfformiadau a oleuir gan gerddoleg; • cenedlaetholdeb a gwleidyddiaeth; • cwestiynau arddull; • cysylltiadau testun-gair.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy (C– i C+): Gwaith sy'n dangos dealltwriaeth o gynnwys y modiwl a'r gallu i feddwl mewn modd gwybodus a rhesymegol, ac a fynegir yn glir.
da
Da (B- i B+): Gwaith sy'n dangos meistrolaeth ar gynnwys y modiwl a'r gallu i feddwl mewn modd ystyriol, ac a fynegir gydag eglurder a chraffter.
ardderchog
Rhagorol (A- hyd A*): Gwaith sy'n dangos treiddgarwch newydd i gynnwys y modiwl a'r gallu i feddwl mewn modd gwreiddiol a chysyniadol, ac a fynegir yn argyhoeddiadol.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu nodi ac elwa o gysylltiadau rhwng ymholi cerddolegol ac arferion cyfansoddi a pherfformio.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu datblygu syniadau gwybodus am gerddoriaeth, wedi'u hadeiladu'n gadarn ar syniadau eraill.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu mynegi syniadau datblygedig am gerddoriaeth, a dadlau eu safbwynt.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cyflwyniad unigol | 40.00 | ||
Gwaith terfynol | 60.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Workshop | Yn wythnosau 1, 3, 5, 7, 9, 11, disgwylir i chi fynychu gweithdy sgiliau astudio (90 munud yr un) sy'n canolbwyntio ar hyfforddiant mewn uniondeb academaidd. Bydd hyn yn digwydd ar-lein. |
11 |
One-to-one supervision | Dau diwtorial i bob myfyriwr hyd at uchafswm o awr gyda chydlynydd y modiwl, i drafod yr asesiadau a sut i fynd atynt. |
1 |
Lecture | Un ddarlith o hyd at dair awr, yr wythnos am 11 wythnos. |
33 |
Private study | Astudio preifat. Bydd tasgau gwrando a darllen yn cael eu gosod cyn pob dosbarth. |
256 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Re-creative skills – interpretation, innovation, versatility, and other skills relating to performance
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wmc-4108.htmlRhestr ddarllen
Cook, Nicholas, Music: A Very Short Introduction (Rhydychen: Oxford University Press, 2000).
Nodir llenyddiaeth ychwanegol sy'n berthnasol i bob pwnc seminar.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3AH: MA Music year 1 (MA/MUS)
- W3BM: MMus Composition and Sonic Art year 1 (MMUS/CSA)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3BJ: MA Music with Education year 1 (MA/MUSED)
- W3BG: MMus Performance year 1 (MMUS/MUSP)