Modiwl WMC-4121:
Project Cyfansoddi 1
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Andrew Lewis
Amcanion cyffredinol
Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gyfansoddi mewn idiom gyfoes. Anogir pob myfyriwr i ddatblygu eu diddordebau neilltuol eu hunain o fewn ystod eang o arddulliau perthnasol i'r unfed ganrif ar hugain. Bydd sesiynau arolygu unigol yn ceisio datblygu hyfedredd a hyder mewn cyfansoddi gan ddefnyddio gwahanol dechnegau cyfoes. Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod ag enghreifftiau cyson o waith sydd ar y gweill, a bydd y tiwtor yn ateb cwestiynau arnynt ynglŷn â materion cysylltiedig ag alaw, harmoni, rhythm, adeiledd, ffurf ac ansawdd, gosodiad geiriau neu ddulliau technolegol, yn ogystal â rhoi sylw i gwestiynau'n ymwneud â dulliau esthetig, natur syniadau a'u cyflwyno, cyd-destun cyfoes, ac yn y blaen.
Cynnwys cwrs
Caiff cynnwys y cwrs ei ddiffinio gan ddiddordebau pob myfyriwr unigol, a archwilir dan gyfarwyddyd tiwtor y modiwl neu aelodau staff perthnasol eraill.
Meini Prawf
da
Da (60-69) Gwaith sy’n dangos ymwneud cadarnhaol â dulliau cyfansoddi cyfoes ac ymateb iddynt, hyder a sicrwydd wrth ymdrin ag arddull, ffurf a thechneg, a lefel nodedig o addewid a gwreiddioldeb creadigol, a dealltwriaeth sicr o offerynnau cerdd, lleisiau neu gyfryngau eraill, ac o sut i ysgrifennu ar eu cyfer.
ardderchog
Rhagorol (70+) Gwaith sy’n dangos dealltwriaeth uwch a hynod firain o arddulliau, ffurfiau a thechnegau cerddorol cyfoes ac ymateb iddynt, ystod drawiadol o adnoddau technegol a meddwl creadigol ar lefel uchel, ac ymwybyddiaeth ddatblygedig o sut i ysgrifennu ar gyfer offerynnau cerdd, lleisiau neu gyfryngau eraill.
trothwy
Trothwy (50-59) Gwaith sy’n dangos gafael sylfaenol ar rai arddulliau a thechnegau cyfoes, ysgrifennu medrus ar gyfer offerynnau, lleisiau neu gyfryngau eraill, ac sy'n dangos peth gallu creadigol.
Canlyniad dysgu
-
Hyfedredd mewn amryw o dechnegau cyfansoddi.
-
Y gallu i weithio mewn iaith ac idiom sy’n berthnasol, o safbwynt artistig, i ddiwylliant celfyddydol cyfoes
-
Y gallu i osod eu gwaith creadigol eu hunain yng nghyd-destun gwaith cyfansoddwyr eraill.
-
Y gallu i feddwl a gweithio gyda gwreiddioldeb ac annibyniaeth greadigol
-
Y gallu i weithio’n hyderus gydag offer a deunyddiau cyfansoddi.
-
Y gallu i gloriannu eu gwaith creadigol eu hunain mewn modd cytbwys a chael budd o’r asesiadau hynny.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Portffolio (gyda sylwebaeth ysgrifenedig) | 100.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Un cyfarfod goruchwyliol bob wythnos, yn para hyd at awr. |
11 |
Private study | amser darllen, paratoi a gwneud asesiadau |
289 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wmc-4121.htmlRhestr ddarllen
Darllen a argymhellir: • Christoph Cox & Daniel Warner (eds.) Audio culture : readings in modern music (New York, 2004) • A. Cipriani & M. Giri, Electronic music and sound design : theory and practice with Max/MSP (Rome, 2010) • S. Emmerson (ed.), Music, Electronic Media and Culture (Burlington, 2000) • A. Whittall, Musical Composition in the Twentieth Century (New York, 1999) • T. Wishart, On Sonic Art, (Amsterdam, 1996)
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3BM: MMus Composition and Sonic Art year 1 (MMUS/CSA)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3BJ: MA Music with Education year 1 (MA/MUSED)