Modiwl WXC-1120:
Dyfeisio Theatr
Dyfeisio Theatr 2023-24
WXC-1120
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Ffion Evans
Overview
- Beth yw perfformio yn ymarferol?
- Llwyfannu elfennau sy’n gysylltiedig â pherfformio?
- Gwaddol hanesyddol a diwylliannol gwahanol draddodiadau yn y theatr.
- Sut mae gwahanol draddodiadau yn y theatr wedi herio a chyfoethogi’r syniad o berfformio a’r theatr.
Assessment Strategy
-threshold -Trothwy (D-, D, D+): •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig •Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Sgiliau grŵp gwan •Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
-good -Da iawn/Da B- i B+ •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol: •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda •Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
-excellent -Rhagorol (A- hyd A*): •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
-another level-Da / Boddhaol (C- i C +) •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol •Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Learning Outcomes
- Dangos gallu i ddarllen a dehongli deunydd cefndir perthnasol a’r gallu i ddadansoddi testunau dramatig yn feirniadol
- Dangos sgiliau sy'n ymwneud â chreu perfformiad, megis cyfarwyddo, actio, cynhyrchu, etc.
- Dangos ymwybyddiaeth feirniadol o drafodaethau a dadleuon cyfredol ym maes theatr a pherfformio a bod yn gyfarwydd â gwaith nifer o fudiadau ac ymarferwyr arloesol.
- Dangos ymwybyddiaeth o’r gyd-berthynas rhwng theori ac ymarfer ym maes astudiaethau perfformio ac o’r prosesau cysyniadol a chreadigol sy’n sail i ddeall a gwireddu perfformiad.
- Disgrifio, dehongli a gwerthuso perfformiad ar draws amrywiaeth o ddigwyddiadau a safleoedd.
- Gallu gweithio’n effeithiol fel aelod o dîm cydweithredol mewn proses greadigol
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Adolygiad Perfformio Cwestiwn: Pa ddealltwriaeth newydd y gellir ei chael trwy ddefnyddio dull Pavis o ddadansoddi cynhyrchiad theatr byw? Dewiswch ddim mwy na dwy agwedd (e.e. actio, mise ênscène, goleuo, gwisgoedd, etc.) ar fodel dadansoddi Pavis. Cymhwyswch y rhain at berfformiad byw rydych wedi ei weld .O’r dadansoddiad hwn, dylech gael dehongliad o’r ddrama y gallwch ddadlau drosto yn eich traethawd fer, gan gyfeirio at eich dadansoddiad. Yn eich traethawd fer mae’n rhaid i chi egluro’r dull Pavis yn fyr ac egluro pam rydych wedi dewis defnyddio’r agweddau neilltuol dan sylw (goleuo, actio, etc.). Dylech gyfeirio at o leiaf 5 ffynhonnell (mae'n rhaid iddynt gynnwys rhai testunau ysgolheigaidd, ond gallwch hefyd gynnwys ffilmiau, ffynonellau o'r rhyngrwyd, adolygiadau, nodiadau rhaglen, dramâu, etc.) a dyfynnu’r rhain yn gywir ganddefnyddio system Harvard.
Weighting
20%
Due date
06/03/2024
Assessment method
Demonstration/Practice
Assessment type
Summative
Description
Dyfeisio Perfformiad Grwp Creu Darn Perfformiad Grŵp (15-20 munud). Byddwch yn creu perfformiad grŵp wedi ei seilio ar destun a syniadau o’r dramâu aastudiwyd yn y modiwl. Disgwylir i chi ddefnyddio ymchwil o’ch cyflwyniadau anffurfiol, a gwaith darllen ac ymchwil a wnaed gennych yn unigol achan y grŵp, a syniadau a dulliau a ddefnyddiwyd yn y sesiynau dysgu. Mae’n rhaid i chi benderfynu sut rydych am ymdrin â’r testun fel bod y themâu a nodwyd gennych yn cael eu gwneud yn glir i gynulleidfa. Gallwch ddewis defnyddio elfennau o’r testun gwreiddiol, neu gallwch ysgrifennu testun newydd sydd wedi ei seilio ar y themâu penodol a nodwyd gennych. Byddwch yn gweithio mewn grwpiau yn yr aseiniad hwn, felly bydd y rhan fwyaf o'r marciau'n farciau grŵp; ond caiff cyflawniadau unigol hefyd eu cymryd i ystyriaeth. Mi fydd y perfformiadau yn cael ei gynnal ar ddiwedd y tymor yn oriau y dosbarth yn ystod wythnos 29 Ebrill- 3ydd o Fai 2024.
Weighting
50%
Due date
03/05/2024
Assessment method
Coursework
Assessment type
Summative
Description
Dadansoddi Ymarfer Theatr Traethawd Fer (1500 o eiriau). Ysgrifennwch draethawd sy’n ymdrin yn feirniadol â’r broses a ddefnyddiwyd i greu’r perfformiad ar gyfer aseiniad dau. Trafodwch y gosodiad hwn: ‘devising is a process of creating performance from scratch’ (Heddon and Milling 2006:3) mewn perthynas â'r gwaith a grëwyd gennych chi. Pa syniadau ydych chi wedi eu defnyddio, a sut? Pa ddealltwriaeth newydd ydych chi wedi ei chael ynglŷn â chreu gwaith perfformio? Mae’n rhaid i chi osod eich proses mewn perthynas ag enghreifftiau a thestunau yr ymdriniwyd â hwy yn y cwrs, a chyfeirnodi’r rhain yn gywir. Yn ddelfrydol, byddwch yn dangos tystiolaeth o ymchwil ehangach na’r testunau a’r deunyddiau yr ymdriniwyd â hwy yn y modiwl. Disgwylir i chi gyfeirio at o leiaf 10 ffynhonnell, a all gynnwys testunau academaidd, erthyglau cyfnodolion, adolygiadau, perfformiadau, ffilmiau, adnoddau ary rhyngrwyd a.y.y.b.
Weighting
30%
Due date
13/05/2024