Modiwl WXC-2000:
Cyfarwyddo
Directing 2025-26 (Deleted)
WXC-2000
2025-26
School of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Ffion Evans
Overview
Mae 'Cyfarwyddo' yn fodiwl sy'n edrych yn fanwl ar broses cyfarwyddwr llwyfan. O lunio naratif, cyfarwyddo actorion i werthuso'r broses o’r testun i’r cynhyrchiad, mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i unigolyn gael dealltwriaeth bellach o swyddogaethau posibl cyfarwyddwr.
Gall myfyrwyr sydd â diddordeb mewn ysgrifennu, cyfarwyddo a pherfformio yn ogystal â myfyrwyr llenyddiaeth a ffilm a'r cyfryngau elwa o'r modiwl hwn gan ei fod yn caniatáu i'r unigolyn ddeall pa gydweithio sydd ei angen rhwng y cyfarwyddwr-awdur, actor-gyfarwyddwr, neu ddylunydd technegol er enghraifft yn y broses o ddatblygu gwaith byw. Bydd y modiwl yn canolbwyntio'n bennaf ar gyfarwyddwyr yr 21ain ganrif a'r heriau a'r posibiliadau o greu cynhyrchiad heddiw.
Cyflwyno ymchwil ddamcaniaethol ac ymarferol mewn ymarfer cyfarwyddwr
Edrych ar ddulliau ymarfer a gwaith golygfa wrth gyfarwyddo actorion
Gwerthuso llunio a datblygu naratif trwy ddadansoddi testun
Edrych ar y broses gydweithio wrth ddatblygu perfformiad byw o’r testun i’r cynhyrchiad, hynny yw, edrych ar berthynas y dylunydd goleuadau, dylunydd sain, dylunydd set a’r cyfansoddwr gyda'r cyfarwyddwr
Assessment Strategy
Trothwy (D-, D, D+): •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion yn unig •Gwendidau yn y ddealltwriaeth o’r prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Perfformiad neu ymateb ysgrifenedig yn canolbwyntio’n wael ar y cwestiwn a chyda pheth deunydd amherthnasol a strwythur gwael •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Sgiliau grŵp gwan •Llawer o wendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da / Boddhaol (C- i C +) •Gwybodaeth am y prif feysydd/egwyddorion •Yn deall y prif feysydd •Tystiolaeth gyfyngedig o astudio cefndirol •Yr ymateb ysgrifenedig neu berfformiad yn canolbwyntio ar aseiniad ond hefyd gyda rhywfaint o ddeunydd amherthnasol a gwendidau yn y strwythur •Cyflwynir dadleuon ond nid ydynt yn gydlynol •Sawl gwall ffeithiol/cyfrifiannol/perfformiad ddim yn argyhoeddi ar y cyfan •Dim dehongli gwreiddiol •Dim ond y prif gysylltiadau rhwng pynciau a ddisgrifir •Datrys problemau cyfyngedig/gwaith tîm boddhaol •Rhai gwendidau mewn cyflwyno/perfformio a chywirdeb
Da iawn B- i B+ •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol: •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt ac wedi’i strwythuro’n dda •Rhan fwyaf o’r dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Ychydig neu ddim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Rhywfaint o ddehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad da iawn gyda chyfathrebu cywir
Rhagorol (A- hyd A*): •Gwybodaeth gynhwysfawr •Dealltwriaeth fanwl •Astudio cefndirol helaeth •Ymateb ysgrifenedig neu berfformiad sydd â chanolbwynt clir ac wedi’i strwythuro’n dda •Dadleuon wedi eu cyflwyno a’u hamddiffyn yn rhesymegol •Dim gwallau ffeithiol/cyfrifiannol a pherfformiad sy’n argyhoeddi •Dehongliad gwreiddiol •Datblygu cysylltiadau newydd rhwng pynciau •Sgiliau grŵp cryf •Cyflwyniad ardderchog gyda chyfathrebu manwl gywir
Learning Outcomes
- Cymryd rhan mewn cyfnod estynedig o archwilio ar sail theori ac ymarfer i gynorthwyo wrth greu perfformiad gwreiddiol.
- Gwneud ymchwiliad annibynnol, ar sail ymchwil, i oleuo gwaith ysgrifenedig ac ymarferol
- Gyfranogwr gweithredol a chreadigol yn y broses ddrama, yn ysbrydoli a chefnogi eraill
- Nodi a thrafod y prosesau damcaniaethol ac ymarferol sy'n ofynnol mewn gwaith cyfarwyddwr.
Assessment type
Summative
Weighting
30%
Assessment type
Summative
Weighting
40%
Assessment type
Summative
Weighting
30%