Modiwl WXC-2011:
Cerddoreg (Blwyddyn 2)
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Wyn Thomas
Amcanion cyffredinol
-
Datblygu gwell medrau o ran meddwl ac ysgrifennu am gerddoriaeth a hanes cerddoriaeth.
-
Cynyddu'r ymwybyddiaeth o gonfensiynau a chyd-destunau ymchwil ac ysgrifennu academaidd.
-
Datblygu medrau mewn ymchwil a chanfod gwybodaeth newydd.
-
Meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth y myfyriwr ynglŷn â phwnc cerddoregol penodol o'u dewis.
-
Paratoi'r myfyrwyr ar gyfer gofynion y Traethawd Hir ym Mlwyddyn 3 (WXC3277).
Cynnwys cwrs
Mae ymchwil yn fedr academaidd sylfaenol, ac felly hefyd y gallu i ysgrifennu'n effeithiol ar ganlyniad yr ymchwil hwnnw. Yn ystod y modiwl hwn, bydd y myfyriwr yn ymchwilio i bwnc o'i ddewis/dewis ei hun, ac yn ysgrifennu traethawd (oddeutu 4,500 o eiriau) fydd yn nodi ei ganfyddiadau. Ar yr un pryd, bydd y modiwl yn gyflwyniad i rai o gonfensiynau a dulliau ymchwil a chyflwyno cerddoregol, a hynny drwy astudiaeth o wahanol enghreifftiau o ysgrifennu academaidd. Ar ben hyn, bydd y myfyriwr yn parhau i ddatblygu'r medrau astudio a ddysgwyd yn Astudio Cerddoriaeth (yn y flwyddyn gyntaf), gan gynnwys medrau llyfryddiaethol, medrau meddwl yn annibynnol, a medrau cyflwyno ar lafar.
Bydd y modiwl yn gyfrwng i baratoi'r unigolyn ar gyfer ysgrifennu Traethawd Hir ym Mlwyddyn 3, a gall hefyd fod yn fuddiol i fyfyrwyr sy'n ystyried Project Golygu ym Mlwyddyn 3.
Bydd y modiwl yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ysgrifennu Traethawd Hir ym Mlwyddyn 3, a gall hefyd fod yn fuddiol i fyfyrwyr sy’n ystyried Project Golygu ym Mlwyddyn 3.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy: D- Gwaith sy’n dangos gwybodaeth sylfaenol, gyfyngedig o’r pwnc a ddewiswyd, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ac ymwybyddiaeth gyfyngedig o faterion perthnasol, ond rhywfaint o dystiolaeth o ymdriniaeth gyffredinol ddeallusol, gyda mynegiant gweddol.
da
Da: B- Dylai’r gwaith ddangos dealltwriaeth gadarn o’r pwnc a ddewiswyd, lefel dda o feddwl cysyniadol ac o werthuso, ymwybyddiaeth dda o’r prif faterion o bwys, gyda thystiolaeth o graffter deallusol a mynegiant da.
ardderchog
Rhagorol:A- Gwaith sy’n dangos dealltwriaeth drylwyr o’r pwnc a ddewiswyd, gyda thystiolaeth o astudiaeth fwy trylwyr, lefelau uwch o feddwl deallusol, ymdriniaeth wreiddiol a medrau ysgrifennu rhagorol.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu casglu a gwerthuso cerddoriaeth a hanes cerddoriaeth mewn dull strwythuredig, gwybodus a methodolegol.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu dyfeisio a chynllunio prosiect ymchwil.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyiwr allu defnyddio confensiynau a chyd-destunau ysgrifennu academaidd ym maes cerddoriaeth.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu defnyddio sgiliau chwilio am lyfryddiaethau a gwybodaeth.
-
Ar ôl cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu cyfathrebu gwybodaeth ac dehongliadau newydd sy'n deillio o ymchwil ar bwnc cerddolegol o'i dewis.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Gwaith Cwrs 1: Llyfryddiaeth | 15.00 | ||
Ymarfer Cynllunio Traethawd Hir | 15.00 | ||
Traethawd o hyd canol | 70.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | 4 | |
Private study | 178 | |
Seminar | 9 seminar 2 awr o hyd. |
18 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Nid oes unrhyw oblygiadau adnoddau penodol i fyfyrwyr.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-2011.htmlRhagofynion a Chydofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 2 (BA/ACC)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 2 (BA/HCAC)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)