Modiwl WXC-2310:
Hanes Cerddoriaeth Cymru A
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Music, Drama and Performance
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Chris Collins
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn:
- gwerthuso’n feirniadol y traddodiad cerddorol yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif o safbwynt hanesyddol a chymdeithasol;
- dangos ymwybyddiaeth o gerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth boblogaidd, a cherddoriaeth draddodiadol o Gymru yn yr 20fed ganrif;
- trafod y gydberthynas gymhleth/ cydberthnasau cymhleth a geir rhwng traddodiadau gwerin, poblogaidd a chelfyddydol yng Nghymru’r 20fed ganrif;
- profi ymwybyddiaeth o offer methodolegol ar gyfer dealltwriaeth feirniadol a gwahaniaethol o hanesyddiaeth cerddoriaeth.
Cynnwys cwrs
- Cerddoriaeth glasurol Gymreig yn yr 20fed ganrif
- Cyfansoddwyr Cymru yn yr 20fed ganrif
- Sefydliadau a chyrff cerddorol yng Nghymu'r 20fed ganrif
- Cerddoriaeth draddodiadol ac adfywiadau cerdd yng Nghymru'r 20fed ganrif
- Cerddoriaeth Bop Cymraeg
- Cerddoriaeth Cymru a'r cyfryngau
Meini Prawf
ardderchog
(A– i A*): Y mae'r gwaith yn dangos dealltwriaeth drylwyr o'r pwnc gyda thystiolaeth o ymchwil pellach, syniadaeth ehangach a gwreididiol gyda'r mynegiant yn rhagorol.
da
(C– i B+): Y mae'r gwaith yn arddangos dealltwriaeth dda o'r pwnc gyda mynegiant safonol o syniadau. Meddir ar ymwybyddiaeth dda o bynciau ynghyd â gallu deallusol craff.
trothwy
(D– i D+): Y mae'r gwaith yn dangos dealltwriaeth drylwyr o'r pwnc gyda thystiolaeth o ymchwil pellach, syniadaeth ehangach a gwreididiol gyda'r mynegiant yn rhagorol.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus bydd y myfyriwr yn gallu gwerthuso agweddau gwahanol ar draddodiad cerddorol Cymru o safbwynt hanesyddol a diwylliannol.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus bydd y myfyriwr yn gallu cloriannu maes cerddoriaeth Cymru yn ystod yr 20fed ganrif a sylwi’n benodol ar amlochredd cerddorol y rhai a fu’n weithgar yn y traddodiad.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus bydd y myfyriwr yn gallu deall datblygiadau amlwg gymerodd le yn bennaf oherwydd cyfraniad unigolion penodol a chyrff/sefydliadau mewn meysydd amrywiol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Traethawd | 75.00 | |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Cyflwyniad seminar | 25.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | 11 seminar wythnosol, 1 awr yr un |
11 |
Private study | Darllen, gwrando ac ymchwil unigol. |
167 |
Lecture | 11 darlith wythnosol, 2 awr yr un |
22 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-2310.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 2 (BA/ACC)
- WW93: BA Creative Studies and Music year 2 (BA/CSTMUS)
- 32N6: BA English Literature and Music year 2 (BA/ELM)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 2 (BA/HCAC)
- VW13: BA History and Music year 2 (BA/HMU)
- W3H6: BA Music and Electronic Engineering year 2 (BA/MEE)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 2 (BA/MHIE)
- W303: BA Music (with International Experience) year 2 (BA/MIE)
- PW33: BA Media Studies and Music year 2 (BA/MSMUS)
- RW13: BA Music/French year 2 (BA/MUFR)
- WR32: BA Music/German year 2 (BA/MUGE)
- WR33: BA Music/Italian year 2 (BA/MUIT)
- W300: BA Music year 2 (BA/MUS)
- WW38: BA Music and Creative Writing year 2 (BA/MUSCW)
- WW36: BA Music and Film Studies year 2 (BA/MUSFS)
- WR34: BA Music/Spanish year 2 (BA/MUSP)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 2 (BA/PRM)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 2 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 2 (BMUS/MUS)