Modiwl WXC-3232:
Cerddorfaeth Heddiw
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Music, Drama and Performance
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Chris Collins
Amcanion cyffredinol
Er mwyn sicirhau dealliannau dysgu
Cynnwys cwrs
Bwriad y modiwl hwn yw dysgu'r sylfeini ar gyfer cerddorfaeth. Bydd pob enghraifft cerddorol yn deillio o gyfansoddwyr o gyfnodau Clasurol, Rhamantaidd a'r Ugeinfed Ganrif (e.e. Beethoven, Rachmaninov a Prokofiev) sydd wedi dylanwau yn gryf ar gyfansoddwyr ffilm heddiw (e.e. John Williams, Dario Marianelli a David Arnold). Bydd y cwrs yn ddechrau gyda'r Gerddorfa Linynnol gan ychwanegu offerynau chwyth a pres yn raddol. Erbyn wythnos darllen1, bydd y myfyriwr yn medru trefnu yn hyderus ar gyfer cerddorfa fechan. Yn ystod yr hanner, bydd pwyslais ar dechnegau cerddorfaeth ar gyfer cerddorfa lawn gan ychwanegu mwy o offerynnau.
Bwriad y cwrs yw dysgu cerddorddfaeth draddodiadol gyda phwyslais ar ddefnydd mewn cerddorfaeth ffilm.
Gorau oll os yw'r myfyriwr yn dilyn (neu wedi dilyn) WXC2234/3234
Meini Prawf
trothwy
Mae'r gwaith yn dangor dealltwriaeth sylfaenol ond cyfyngedig o ddeunydd y pwnc, gyda rhywfaint o allu o ran meddwl theoretig a digon o grap o¿r pynciau sydd wedi cael sylw. Bydd angen rhywfaint o dystiolaeth o ymdriniaeth greadigol yn y prif aseiniad.
da
Mae'r gwaith yn dangor dealltwriaeth glir o ddeunydd y pwnc, lefel foddhaol o feddwl theoretig, a dealltwriaeth o¿r prif bynciau. Mae digon o dystiolaeth o ymdriniaeth greadigol ddeallus i'w gweld, gyda digon o fynegiant creadigol.
ardderchog
Mae'r gwaith yn dangos dealltwriaeth gampus o ddeunydd y pwnc, gyda thystiolaeth o ddawn naturiol yn y maes hwn, ymdriniaeth wreiddiol a medrau cyfansoddi rhagorol.
Canlyniad dysgu
-
meistroli¿r grefft o drefnu yn idiomatig ar gyfer cerddorfa linynnol ac offerynnau eraill priodol o'r gerddorfa fodern.
-
arddangos defnydd hynod eang o greadigrwydd a dychymyg mewn trefnu yn synhwyrol ar gyfer cerddorfa lawn, tra'n gosod gyda hyder y technegau priodol sydd yn perthyn i bob offeryn, ac efallai yn ehangu ymhellach i ddefnyddio technegau arbrofol.
-
trin a thrafod technegau cerddorfaeth gyda chryn hyder a deallusrwydd.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Gwaith Cwrs 1 | 20.00 | ||
Gwaith Cwrs 2 | 30.00 | ||
Prif Aseiniad | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
11 o ddarlithoedd i fyny at 2 awr yr un, cynhelir wythnos darllen yn ystod y semester |
Rhagofynion a Chydofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W303: BA Music (with International Experience) year 3 (BA/MIE)
- W300: BA Music year 3 (BA/MUS)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 3 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 3 (BMUS/MUS)