Modiwl WXC-3305:
Genres a Chyfansoddwyr C
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Mr Stephen Rees
Amcanion cyffredinol
Ar y modiwl hwn, mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau cerddolegol uwch drwy astudio pwnc penodol yn fanwl. Mae'r myfyrwyr yn dewis pwnc o restr o opsiynau. Diffinir pynciau fel naill ai weithiau gan gyfansoddwr neu grŵp o gyfansoddwyr, arddull neu genre o gerddoriaeth (yn ystod cyfnod hanesyddol penodol fel arfer), neu repertoire o gerddoriaeth a fodolwyd mewn cyfnod/lle penodol neu am bwrpas penodol. Cynigir o leiaf tri opsiyn, sy'n ymwneud â arbenigedd staff.
Mae'r modiwl yn rhoi gwybodaeth fanwl o'r pwnc detholedig i fyfyrwyr, wrth eu galluogi i ddatblygu eu sgiliau mewn dadansoddi cerddoriaeth, astudio ffynonellau, a deall cyd-destunau. Annogir myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn gysyniadol am eu gwybodaeth newydd mewn perthynas â'r wybodaeth a dderbynwyd ym Mlwyddyn 2.
Mae'r opsiynau yn wahanol i'r rhai a gafodd eu cynnig ar Genres a Chyfansoddwyr A (ym Mlwyddyn 2). Mae opsiynau pellach ar gael yn Saesneg ar Genres & Composers D (Blwyddyn 3 Semester 2).
Cynnwys cwrs
Cynigir o leiaf tri phwnc; mae myfyrwyr yn dewis un ohonynt. Mae'r dewis o bwnciau'n newid o flwyddyn i flwyddyn. Mae'r rhestr ganlynol yn dangos yr amrywiaeth o opsiynau a all fod ar gael dros Genres a Chyfansoddwyr A a C. Nodir yr opsiynau sydd ar gael yn 2019-20 â seren isod.
- Adfywiadau Cerdd
- Y Beatles
- Beethoven a'r Pedwarawd Llinynnol
- Cage a Cherddoriaeth Arbrofol
- Celfyddyd Serch Llys
- Y Ffidil yn Niwylliant y Byd*
- Josquin a'i gyfoeswyr
- Ligeti
- Michael Nyman
- Minimaliaeth
- Symffoni'r 19eg Ganrif
- Tonyddiaeth Heddiw*
- Tri Chyfansoddwr Cymreig Cyfoes: Metcalf, Samuel a Barrett*
Meini Prawf
da
C– i B+: Gwaith sy'n dangos dealltwriaeth gadarn o’r pwnc a ddewiswyd, lefel dda o feddwl cysyniadol ac o werthuso, ymwybyddiaeth dda o’r prif faterion o bwys, gyda thystiolaeth o graffter deallusol a mynegiant da.
trothwy
D– i D+: Gwaith sy’n dangos gwybodaeth sylfaenol, gyfyngedig o’r pwnc a ddewiswyd, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ac ymwybyddiaeth gyfyngedig o faterion perthnasol, ond rhywfaint o dystiolaeth o ymdriniaeth gyffredinol ddeallusol, gyda mynegiant gweddol.
ardderchog
A– i A**: Gwaith sy’n dangos dealltwriaeth drylwyr o’r pwnc a ddewiswyd, gyda thystiolaeth o astudiaeth fwy trylwyr, lefelau uwch o feddwl deallusol, ymdriniaeth wreiddiol a medrau ysgrifennu rhagorol.
Canlyniad dysgu
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu gweithredu sgiliau o ddadansoddi cerddoriaeth, ymchwil trwy ffynonellau, meddwl beirniadol, a meddwl cysyniadol mewn perthynas â'r gerddoriaeth a astudiwyd.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu gweithredu gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o bynciau penodol mewn hanes a diwylliant cerddoriaeth, a gallu mesur hyn mewn perthynas â'i (g)wybodaeth ehangach.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu cyfathrebu syniadau ynglŷn â'r gerddoriaeth a astudiwyd mewn arddull sydd yn gymesurol â phrotocoliau cerddolegol proffesiynol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cyflwyniad | 25.00 | ||
Traethawd | 75.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 11 o ddarlithoedd/seminarau wythnosol, 2 awr yr un. |
22 |
Seminar | 11 seminar, 1 pob wythnos, 1 awr yr un. |
11 |
Private study | Darllen a gwrando paratoawl, ac ymchwil a dadansoddi ar gyfer tasgiau i'w hasesu. |
167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Nid oes goblygiadau ar gyfer myfywyr o ran adnoddau.
Rhestr ddarllen
Cyhoeddir rhestrau darllen manwl ar ôl i'r pynciau wedi cael eu gosod.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 3 (BA/ACC)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 3 (BA/HCAC)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)