Modiwl XAC-3039:
Anawsterau Dysgu Dwys
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Education and Human Development
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Mr Clive Underwood
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn ymchwilio i'r goblygiadau ar gyfer datblygiad babanod ifanc, plant a phobl ifanc sydd ag Anawsterau Dysgu Difrifol (ADD) ac Anableddau Dysgu Dwys a Lluosog (AADLl). Mae'n cyflwyno materion cyffredinol i fyfyrwyr yng nghyswllt astudio datblygiad yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd, ac i'r materion penodol wrth edrych ar ddatblygiad mewn plant a phobl ifanc gydag amrywiaeth o amhariadau cymhleth. Mae'n edrych ar y cysylltiadau rhwng rhyngweithiadau gyda rhai sy'n gofalu - ym mlynyddoedd cynnar bywyd ac ar ôl datblygu. Mae'n archwilio'r cysylltiad rhwng modelau o ddatblygiad nodweddiadol ac addysg plant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl. Mae'n edrych ar gysyniad ymarfer wedi'i seilio ar dystiolaeth mewn ymyriadau gyda phlant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar ddatblygiad nodweddiadol ym mlynyddoedd cynnar bywyd, a sut mae ymchwil i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddatblygiad, a dealltwriaeth ohonynt, yn dylanwadu ar addysg a gofal plant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl. Bydd yn cynnwys:
• Dysgu Cynnar a'r Cof • Datblygiad echddygol a chwarae • Datblygu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu • Materion wrth hwyluso datblygu a dysgu mewn plant a phobl ifanc ag ADD / ADDLl • Asesu plant a phobl ifanc gydag amhariadau lluosog a'u datblygiad: canfyddiadau o ymchwil. • Rhyngweithio rhwng babanod gydag anableddau a heb anableddau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt - goblygiadau ar gyfer y datblygiad. • Datblygiad y golwg a chanfyddiad • Materion meddygol yn ymwneud ag ADD ac ADDLl • Materion wrth ymchwilio i ddatblygiad a dysgu cynnar iawn ac ADD ac ADDLl • . Sail y dystiolaeth ar gyfer ymyriadau poblogaidd gan gynnwys materion wrth werthuso'r dystiolaeth ar gyfer ymyriadau;
• Ymagweddau damcaniaethol at addysg a gofal plant a phobl ifanc ag ADD ac ADDLl
Meini Prawf
trothwy
D+ i D-: Mae myfyrwyr yn dangos gwybodaeth foddhaol o ychydig o ddeunydd darllen ar asesu a gweithio gyda phlant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl. Dangosant rywfaint o wybodaeth o'r materion sy'n gysylltiedig â gwerthuso effeithiolrwydd ymyriad. Maent yn darparu tystiolaeth eu bod wedi arsylwi plentyn neu berson ifanc ag ADD neu ADDLl ar sawl achlysur, naill ai trwy gwblhau lleoliad, neu trwy astudio deunydd fideo wedi'i gyfuno â phroffiliau ysgrifenedig, a'u bod yn gwneud rhai awgrymiadau ynghylch sut y gellir gwneud asesiad mwy manwl, â'r hwn y maent yn cysylltu o leiaf un safbwynt damcaniaethol.
da
C+ i B+: Mae myfyrwyr yn dangos gwybodaeth dda o amrywiaeth o ddeunydd darllen ar asesu a gweithio gyda phlant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl, a gwahanol safbwyntiau damcaniaethol. Dangosant wybodaeth gadarn o'r materion sy'n gysylltiedig â gwerthuso effeithiolrwydd ymyriad, a defnyddiant hyn i werthuso'n feirniadol un ymyriad a ddefnyddir gyda phobl sydd â SLD a / neu PMLD.Maent yn darparu tystiolaeth eu bod wedi arsylwi plentyn neu berson ifanc ag ADD neu ADDLl ar sawl achlysur, naill ai trwy gwblhau lleoliad, neu trwy astudio deunydd fideo wedi'i gyfuno â phroffiliau ysgrifenedig. Maent yn gwneud awgrymiadau ynghylch sut y gellir gwneud asesiad mwy manwl, â'r hwn y maent yn cysylltu llenyddiaeth ddamcaniaethol. Maent yn rhoi rhesymeg glir ynghylch pam maent wedi dewis y dulliau a wnaethant.
ardderchog
A* i A-: Mae myfyrwyr yn dangos gwybodaeth drylwyr o amrywiaeth eang o ddeunydd darllen ar asesu a gweithio gyda phlant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl, a gwahanol safbwyntiau damcaniaethol.Maent yn dangos gwybodaeth fanwl am y materion sy'n gysylltiedig â gwerthuso ymyriadau, a defnyddiant hyn i werthuso'n feirniadol un ymyriad a ddefnyddir gyda phobl sydd â SLD a / neu PMLD, sy'n ymwneud â'u gwerthusiad yn glir i'r llenyddiaeth a'r safbwyntiau damcaniaethol. Maent yn darparu tystiolaeth eu bod wedi arsylwi plentyn neu berson ifanc ag ADD neu ADDLl ar sawl achlysur, naill ai trwy gwblhau lleoliad, neu trwy astudio deunydd fideo wedi'i gyfuno â phroffiliau ysgrifenedig, ac maent wedi cynnal eu harsylwadau'n systematig gyda'r angen i sicrhau dilysrwydd a dibynadwyedd y wybodaeth a'i chasglu. Maent yn gwneud awgrymiadau ar gyfer sut y gellid cynnal asesiad manwl, y maent yn cysylltu â'r llenyddiaeth. Maent yn rhoi rhesymeg glir dros pam maen nhw wedi dewis y dulliau a ddewiswyd, ac yn dangos eu bod wedi gwerthuso gwahanol ddulliau yn feirniadol.
Canlyniad dysgu
-
Dangos gwybodaeth o wahanol ymagweddau damcaniaethol at ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADD / ADDLl a thrafod eu cryfderau a'u gwendidau
-
Dangos dealltwriaeth feirniadol o gryfderau a chyfyngiadau safbwynt datblygiadol mewn cysylltiad ag addysg dysgwyr gydag ADD ac ADDLl.
-
Adfyfyrio'n feirniadol ar her asesu babanod ifanc, plant a phobl ifanc gydag amhariadau cymhleth.
-
Dangos dealltwriaeth o un ymyriadau a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer plant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl, o leiaf a gallu gwerthuso'n feirniadol cryfder y dystiolaeth sy'n cefnogi'r fath ymyriadau hyn.
-
Dangos dealltwriaeth feirniadol o ddatblygiadau mewn polisi sy'n berthnasol i blant a phobl ifanc gydag ADD ac ADDLl, a gwerthuso'n feirniadol sut mae'r rhain yn debygol o effeithio ar ddarpariaeth.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Gwerthusiad beiriadol o ymyrraeth a ddewiswyd | Trafodwch y dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd UN ymyrraeth a ddefnyddir gyda phlant / pobl ifanc sydd â SLD / PMLD Wrth drafod gyda'r tiwtor modiwl, dewiswch UN ymyriad sy'n cael ei ddefnyddio gyda phlant a phobl ifanc sydd â SLD a / neu PMLD Am yr ymyriad a ddewiswyd gennych: Yn feirniadol trafodwch y dystiolaeth am ei effeithiolrwydd gyda phlant / pobl ifanc sydd ag ADD a / neu ADDLl ac yn myfyrio ar y graddau y mae persbectif datblygiadol ar ADD a / neu ADDLl yn sail iddo. A allwch chi adnabod y persbectif damcaniaethol sy'n sail i'r ymyriad arbennig hwn. A yw hyn yn cyfrannu at ei effeithlonrwydd tebygol? DS Rhaid i chi gytuno ar yr ymyriad a ddewiswyd gennych gyda'r tiwtor modiwl cyn dechrau'r gwaith ar yr aseiniad hwn |
50.00 |
CYNLLUN YSGRIFENEDIG | Cynllun asesu wedi'i ategu gan dystiolaeth | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Workshop | Gweithdai wyneb yn wyneb 2x2 awr yn asesu deunyddiau i'w defnyddio gyda phobl ag ADDLl |
4 |
3 sesiwn x2 awr (ar-lein- cydamserol) gydag ymarferwyr ym maes SLD / PMLD 18 awr mewn lleoliad priodol neu 18 awr o adolygu a dadansoddi gwybodaeth fideo ac ysgrifenedig am unigolyn / unigolion ag ADD / ADDLl i'w cwblhau yn ail hanner y semester. |
24 | |
Seminar | Cyfarfodydd grwpiau bach (wyneb i wyneb neu ar lein) er mwyn trafod cynydd y gwaith ar gyfer aseiniad 2 (3x2 awr) |
6 |
Lecture | Darlithoedd, gweithdai a seminarau rhyngweithiol: 24 awr (16 @ 1.5 awr/wythnos). |
18 |
Private study | Astudiaeth personol (148 awr) |
148 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Mae angen i fyfyrwyr ddod o hyd i leoliad addas neu gwblhau gwaith amgen; mae cost bosibl teithio i'r lleoliad
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/xac-3039.htmlRhagofynion a Chydofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 3 (BA/API)
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 3 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 3 (BA/APIPC)
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 3 (BA/APIS)
- X313: BA Childhood and Youth Studies year 3 (BA/CYS)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)