Modiwl CXC-2028:
Llenyddiaeth Gymraeg America
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Jerry Hunter
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r berthynas rhwng llenyddiaeth Cymru America a'u profiadau hanesyddol a chymdeithasol. Ceir cyflwyniad bras i ddiwylliant ymfudwyr Cymreig y cyfnod c.1600 - c. 2000, ond rhoddir sylw'n bennaf i gynnyrch llenyddol cymunedau Cymraeg yr Unol Daleithiau gan ganolbwyntio ar y cyfnod 1840-1900. Trafodir y modd y bu i awduron Cymraeg America harneisio holl gynhysgaeth ddiwylliannnol y Cymry a'i haddasu ar gyfer dibenion newydd mewn gwlad newydd. Astudir diwylliant Cymraeg Patagonia hefyd a chymharu llenyddiaeth y Wladfa â llên Cymry'r Unol Daleithiau. Bydd y cyfan yn gyfle i ystyried y berthynas rhwng llenyddiaeth a gwahanol fathau o hunaniaeth genedlaethol.
Cynnwys cwrs

Meini Prawf
trothwy
Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gwybodaeth am rychwant o feirdd a llenorion Cymraeg Americanaidd a'u testunau a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu i ddadansoddi testunau llenyddol Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
da
Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gwybodaeth dda am rychwant o feirdd a llenorion Cymraeg Americanaidd a'u testunau a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu da i ddadansoddi testunau llenyddol Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
ardderchog
Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gwybodaeth sicr am rychwant o feirdd a llenorion Cymraeg Americanaidd a'u testunau a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu sicr i ddadansoddi testunau llenyddol Ddangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Amgyffred rhai agweddau ar hanes llên a diwylliant Cymry America.
-
Gwybod sut i ymateb yn feirniadol i destunau Cymraeg sy'n perthyn i gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol Americanaidd.
-
Dadansoddi'r berthynas rhwng profiadau hanesyddol Cymry America a'u llenyddiaeth.
-
Trafod y gwahaniaethau rhwng diwylliant Cymraeg Cymru a diwylliant Cymraeg America.
-
Bwrw trawsolwg eang ar yr hyn a drafodir gan ddwyn i mewn ystyriaethau cymharol lle y bo'n briodol.
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 2 awr darlith x 10 |
20 |
Seminar | 1 awr seminar x 10 |
10 |
Private study | 170 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.