Modiwl HTC-3128:
Cestyll a Chymdeithas
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Philosophy and Social Sciences
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Euryn Roberts
Amcanion cyffredinol
O’r holl henebion sydd yn goroesi o’r Oesau Canol does dim, efallai, yn dwyn y cyfnod i gof yn fwy nag olion cestyll yr oes. Amcan y modiwl hwn yw agor ffenestr ar gymdeithas yn Ewrop a thu hwnt yn ystod y cyfnod 1000-1500, a hynny drwy edrych nid yn unig ar swyddogaeth filwrol cestyll, ond hefyd ar eu dylanwad ar agweddau megis bywyd domestig, statws ac awdurdod, gweinyddiaeth a gwleidyddiaeth, a thirwedd a phensaernïaeth yn y cyfnod. Fel adeiladau ag iddynt amrywiol swyddogaethau, y mae cestyll felly yn cynnig golwg neilltuol ar nifer o themâu allweddol yn hanes yr Oesau Canol, a hynny drwy gyfrwng amrediad o ffynonellau (e.e. adroddiadau archeolegol, mapiau a’r tirwedd ei hun, ffynonellau gweinyddol a llenyddol o’r cyfnod). Drwy ganolbwyntio ar gyd-destun cymdeithasol cestyll mae’r modiwl hwn yn annog y myfyrwyr i ddwyn cymariaethau ac i feddwl yn feirniadol am ddylanwad a swyddogaeth cestyll yng nghymdeithas y cyfnod.
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r berthynas rhwng cestyll a chymdeithas yn y cyfnod 1000-1500; meithrin ymwybyddiaeth o rai o’r dehongliadau gwrthgyferbyniol o’r pynciau a drafodir a galluogi myfyrwyr i farnu rhyngddynt; ysgogi dealltwriaeth o’r pwnc yn ei grynswth; ond gadael iddynt hefyd ymddiddori mewn agweddau penodol.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn edrych ar y themâu canlynol:
- Cefndir a chyd-destun hanesyddiaethol; 2. Gwreiddiau cestyll y cyfnod; 3. Cestyll a chrefft rhyfela yn y cyfnod; 4. Castell pawb ei dŷ: cestyll fel cartrefi ac anheddau; 5. Astudiaeth achos 1: Cestyll y Croesgadwyr 1098-1291; 6. Cestyll y dychymyg a’r delfryd sifalrig; 7. Astudiaeth achos 2: Cestyll yng Nghymru 1063-1415; 8. Tirlun a phensaernïaeth gastellog; 9. Cestyll a chartrefi caerog yr Oesau Canol Diweddar; 10. Machlud Cestyll yr Oesau Canol?
Ceir cyfle yn ystod y seminarau i archwilio’r themâu hyn ymhellach.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy
Bydd myfyrwyr trothwy (D- [42%]) yn dangos gwybodaeth sylfaenol o rannau o leiaf o’r maes perthnasol a byddant yn gwneud ymdrechion lled lwyddiannus o leiaf i lunio dadl sy’n cydnabod y ceir gwahaniaethau mewn dehongliad hanesyddol.
da
Da
Bydd myfyrwyr da (C-, C, C+ [50au]) yn dangos lefel uwch o wybodaeth, a’r gallu i gyflwyno dadl gydlynol sy’n cael ei chynnal gan dystiolaeth addas am nifer o agweddau ar y testun. Bydd myfyrwyr da iawn (B-, B, B+ [60au]) yn dangos lefel gadarn o gyrhaeddiad yn yr holl feini prawf a restrwyd yn y paragraffau uchod.
ardderchog
Rhagorol
Bydd myfyrwyr rhagorol (A-, A, A+, A* [70au ac uwch]) yn dangos y cyrhaeddiad cadarn hwn ar draws yr holl feini prawf ynghyd â dyfnder gwybodaeth drawiadol iawn a/neu allu dadansoddol eithriadol graff.
Canlyniad dysgu
-
Defnyddio ffynonellau gwreiddiol a/neu adroddiadau archaeolegol fel rhan annatod o ddadl hanesyddol.
-
Cyflwyno dadleuon hanesyddol clir a threfnus ar agweddau ar gestyll a chymdeithas yn y cyfnod rhwng 1000 a 1500 ar ffurf traethodau gradd, a chynnal y dadleuon hyn â thystiolaeth.
-
Barnu rhwng dehongliadau hanesyddiaethol gwahanol o’r pwnc.
-
Dangos gwybodaeth fanylach o rai agweddau penodol ar y pwnc.
-
Dangos dealltwriaeth eang o gestyll a chymdeithas yn y cyfnod rhwng 1000 a 1500.
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
|
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- VVV2: BA Philosophy and Religion and Welsh History year 3 (BA/PRWH)
- VP23: BA Welsh History and Film Studies year 3 (BA/WHFS)
- LVH2: BA Welsh History/Sociology year 3 (BA/WHS)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- V400: BA Archaeology year 3 (BA/ARCH)
- 3QV1: BA History and English Literature year 3 (BA/ELH)
- P3V1: BA Film Studies and History year 3 (BA/FSH)
- V100: BA History year 3 (BA/H)
- V103: BA History and Archaeology year 3 (BA/HA)
- VV41: BA Herit, Archae & Hist year 3 (BA/HAH)
- VV42: BA Heritage, Archaeology & History with International Exp year 4 (BA/HAHIE)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 3 (BA/HCAC)
- MVX1: BA History/Criminology year 3 (BA/HCR)
- LV11: BA History/Economics year 3 (BA/HEC)
- RV11: BA History/French year 4 (BA/HFR)
- RV21: BA History/German year 4 (BA/HG)
- 8B03: BA History (with International Experience) year 4 (BA/HIE)
- RV31: BA History/Italian year 4 (BA/HIT)
- VW13: BA History and Music year 3 (BA/HMU)
- RV41: BA History/Spanish year 4 (BA/HSP)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 3 (BA/HSW)
- V140: BA Modern & Contemporary History year 3 (BA/MCH)
- V130: BA Mediaeval and Early Modern His year 3 (BA/MEMH)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 4 (BA/MHIE)
- VVV1: BA Philosophy and Religion and History year 3 (BA/PRH)
- LV31: BA Sociology/History year 3 (BA/SH)
- LV41: BA Social Policy/History year 3 (BA/SPH)
- LVK1: BA Polisi Cymdeithasol/Hanes year 3 (BA/SPWH)
- LVL1: BA Pol Cymd/Han Cymru year 3 (BA/SPWWH)
- LVH1: BA Cymdeithaseg/Hanes Cymru year 3 (BA/SWWH)
- QV51: BA Cymraeg/History year 3 (BA/WH)
- V104: BA Welsh History and Archaeology year 3 (BA/WHAR)
- VV12: BA Welsh History/History year 3 (BA/WHH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 3 (BA/WHW)
- M1V1: LLB Law with History year 3 (LLB/LH)
- M1V2: LLB Law with History (International Experience) year 3 (LLB/LHI)
- V401: MArts Archaeology year 3 (MARTS/ARCH)
- V101: MArts History year 3 (MARTS/HIST)