Cyrsiau
Gofynion Mynediad
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy'n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i'ch cais.
Mae'n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae'n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Fel arfer gellir defnyddio pob cymhwyster lefel 3 (e.e. GCE, Lefel A ac AS, VCEs a Sgiliau Allweddol) i gyfrif cyfanswm eich pwyntiau.
Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com/candq/tariff/index.html
Mae gofynion mynediad mwy penodol i'w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Cymhwysterau nad ydynt yn y fframwaith tariff
Cyrsiau Mynediad a Mynediad hŷn
Rydym yn croesawu eich cais os ydych yn gwneud cwrs Mynediad cydnabyddedig. Rydym hefyd yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hyn eraill sy'n medru dangos fod ganddynt y gallu a'r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol.
Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o gyngor ar fod yn fyfyriwr hŷn ym Mangor, ewch i'n tudalennau Astudio ym Mangor.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: derbyniadau@bangor.ac.uk
Neu ysgrifennwch at:
Y Swyddfa Dderbyniadau
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2DG
Ffôn: 01248 382017