Modiwl HAC-2016:
Y Gaethfasnach Drawsatlantig
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Philosophy and Social Sciences
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Gareth Evans Jones
Amcanion cyffredinol
Amcan a phwrpas y modiwl hwn yw astudio’n fanwl ddatblygiad a dirywiad y gaethfasnach drawsatlantig yn ystod y cyfnod 1440 – 1880. Roedd y cyfnod hwn yn gyfnod nodedig gan i filiynau o Affricaniaid gael eu dadleoli o’u mamwlad a’u gosod mewn cyd-destunau cymdeithasol, syniadaethol ac ieithyddol tra gwahanol. Bydd y modiwl hwn yn ystyried sut y datblygodd y gaethfasnach hon ar hyd y blynyddoedd gan archwilio rôl crefydd yn ei sefydlu, ei chynnal a’i dilead – yn enwedig safbwyntiau’r Cristnogion a gefnogai’r gaethfasnach ynghyd â’r diddymwyr Cristnogol. Wedi trafod amryw agweddau eraill, megis natur y Fordaith Ganol, bywyd yn y ‘Byd Newydd’, naratifau a chaneuon y caethion, ynghyd â’r mudiad diddymol, bydd y modiwl yn darfod drwy ystyried natur iawndaliadau, ynghyd ag archwilio y wir effaith a gafodd rhyddhau’r caethion – a gawsent eu derbyn gan gymdeithas ynteu a fu i’w rhyddid esgor ar agweddau negyddol eraill?
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn archwilio amrywiaeth o destunau mewn cryn fanylder, megis: diffinio caethwasiaeth a’r byd trawsatlantig, natur y Fordaith Ganol, bywyd yn y ‘Byd Newydd’, naratifau a chaneuon y caethion, y berthynas rhwng y gaethfasnach a chrefydd (yn arbennig felly Gristnogaeth), y mudiad diddymol a dirywiad graddol y gaethfasnach, ynghyd â natur ac effaith iawndaliadau, yn ogystal ag ystyried sefyllfa’r cyn-gaethion yn ail hanner y 19eg ganrif.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn ddigonol ac sydd yn dangos lefel dderbyniol o allu yn y meysydd canlynol: • Yn gywir ar y cyfan ond yn cynnwys diffyg gwybodaeth neu gamgymeriadau. • Gwneir honiadau heb wybodaeth gefnogol neu resymeg eglur. • Yn cynnwys strwythur ond yn aneglur ac felly’n dibynnu ar i’r darllenydd ddwyn cysylltiadau a thybiaethau. • Yn dibynnu ar nifer gyfyngedig o ddeunydd.
C- i C+
C- i C+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys, ar brydiau, arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol yn ddeheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Mewn mannau, defnydd beirniadol o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Gwneir honiadau sydd, ar y cyfan, wedi eu cefnogi gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
da
B- i B+ Cyflwynwyd gwaith sydd yn dda drwyddi draw ac sy’n cynnwys arddull, dull a detholiad o ddeunyddiau cefnogol mewn modd deheuig. Mae’n dangos: • Strwythur dda iawn a dadleuon a ddatblygwyd yn rhesymegol. • Defnydd o ddeunydd sy’n tystio i ymchwil annibynnol, neu sydd mewn ffordd yn unigryw i’r myfyriwr. • Cefnogir honiadau gan dystiolaeth ac ymresymiad cadarn. • Gwaith sy’n gywir ac sy’n cynnwys arddull academaidd briodol.
ardderchog
A- i A+ Cyflwynwyd gwaith sydd o ansawdd ragorol ac sy’n ardderchog mewn un neu fwy o’r canlynol: • Cynnwys dehongliad gwreiddiol lle mae myfyrdod annibynnol y myfyriwr yn amlwg. • Darparu tystiolaeth eglur o astudiaeth annibynnol eang a phriodol. • Cyflwyno dadleuon yn eglur ac yn darparu’r darllenydd gyda thrafodaethau sy’n dilyn ei gilydd yn rhesymegol hyd at y casgliadau.
Canlyniad dysgu
-
• Arddangos gallu i archwilio, darllen, dadansoddi ac adlewyrchu’n feirniadol ac yn gyd-destunol ar ffynonellau cynradd ac eilaidd, gan gynnwys ysgrifau hanesyddol a deongliadau haneswyr am y gaethfasnach drawsatlantig.
-
• Arddangos dealltwriaeth o’r dulliau amrywiol i ddeall, creu a dehongli’r gorffennol; a phan fo’n briodol, dangos gwybodaeth o gysyniadau a damcaniaethau sy’n deillio o’r dyniaethau a gwyddorau cymdeithas.
-
• Dangos y gallu i ymateb i broblemau hanesyddol mewn dyfnder, drwy ddefnyddio ffynonellau cyfoes a llenyddiaeth eilaidd ddatblygedig.
-
• Dangos gwerthfawrogiad o gymhlethdod ail-greu’r gorffennol, a natur broblemus ac amrywiol tystiolaeth hanesyddol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Traethawd | Rhoddir dewis o 5 cwesiwn wedi eu teilwra at lefel 5 i fyfyrwyr a bydd disgwyl iddynt ateb un am agwedd ar y gaethfasnach drawsatlantig. |
70 |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Cyflwyniad llafar unigol | Disgwylir i fyfyrwyr draddodi cyflwyniad llafar unigol a fydd yn para 20 munud ac yn trafod agwedd benodol ar y gaethfasnach drawsatlantig, megis hanes, crefydd, cymdeithaseg neu ddiwylliant. |
30 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Disgwylir i fyfyrwyr fynychu 33 awr o addysgu ffurfiol. Bydd y darlithoedd (awr yr un) yn cynnig trosolwg eang a manwl o wahanol elfennau cysylltiedig â'r gaethfasnach drawsatlatntig, gan gynnwys hanes, crefydd, cymdeithaseg, diwylliant, gwleidyddiaeth ac economi. |
33 |
Private study | Disgwylir i fyfyrwyr wneud gwerth 167 awr o astudiaeth annibynnol. Er mwyn cyfoethogi hyn, bydd cydlynydd y modiwl yn darparu myfyrwyr â rhestr ddarllen briodol ynghyd â dosbarthu eitemau priodol, megis erthyglau ysgolheigaidd, ffynonellau cynradd a ffynonellau eilaidd. |
167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/hac-2016.htmlRhestr ddarllen
Baucom, Ian. 2005. Specters of the Atlantic: finance capital, slavery, and the philosophy of history. Durham: Duke University Press.
Evans, Chris. 2010. Slave Wales: The Welsh and Atlantic Slavery, 1660-1850. Cardiff: Cardiff University Press.
Klein, Herbert S. 1999. The Atlantic Slave Trade. Cambridge: Cambridge University Press.
Morgan, Kenneth. 2000. Slavery, Atlantic Trade and the British Economy, 1660-1800. Oxford: Oxford University Press.
Murray, David. 1980. Odious Commerce: Britain, Spain and the abolition of the Cuban slave trade. Cambridge: Cambridge University Press.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 2 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- LM3Y: BA Cymdeithaseg&CriminologyCrimJ year 2 (BA/CCCJ)
- V100: BA History year 2 (BA/H)
- VV41: BA Herit, Archae & Hist year 2 (BA/HAH)
- VV42: BA Heritage, Archaeology & History with International Exp year 2 (BA/HAHIE)
- V1V9: BA History with Archaeology with International Experience year 2 (BA/HAIE)
- V1V4: BA History with Archaeology year 2 (BA/HAR)
- V10F: BA History [with Foundation Year] year 2 (BA/HF)
- 8B03: BA History (with International Experience) year 2 (BA/HIE)
- LVJ1: BA Cymdeithaseg/Hanes year 2 (BA/HSW)
- V140: BA Modern & Contemporary History year 2 (BA/MCH)
- V130: BA Mediaeval and Early Modern His year 2 (BA/MEMH)
- L401: Polisi Cymdeithasol year 2 (BA/PC)
- LM4X: BA Polisi Cymdeithasol & Criminology and Criminal Justice year 2 (BA/PCCCJ)
- VV56: BA Philosophy and Religion year 2 (BA/PHRE)
- VV5P: BA Philosophy and Religion with Placement Year year 2 (BA/PHREP)
- 3VQV: BA Philosophy and Religion and English Literature year 2 (BA/PREN)
- VVR1: BA Philosophy and Religion and French year 2 (BA/PRF)
- VVR2: BA Philosophy and Religion and German year 2 (BA/PRG)
- VVV1: BA Philosophy and Religion and History year 2 (BA/PRH)
- VVR3: BA Philosophy and Religion and Italian year 2 (BA/PRI)
- VV57: BA Philosophy and Religion with International Experience year 2 (BA/PRIE)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 2 (BA/PRM)
- VVR4: BA Philosophy and Religion and Spanish year 2 (BA/PRS)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- VVV2: BA Philosophy and Religion and Welsh History year 2 (BA/PRWH)
- L300: BA Sociology year 2 (BA/S)
- L31B: BA Sociology (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (BA/S1)
- LM40: BA Sociology & Criminology & Crim Just with International Ex year 2 (BA/SCJIE)
- LM39: BA Sociology and Criminology & Criminal Justice year 2 (BA/SCR)
- L30F: BA Sociology [with Foundation Year] year 2 (BA/SF)
- 8Y70: BA Sociology (with International Experience) year 2 (BA/SIE)
- LL34: BA Sociology and Social Policy year 2 (BA/SOCSP)
- L3LK: BA Cymd gyda Phol Cymd year 2 (BA/SSPW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- LVH1: BA Cymdeithaseg/Hanes Cymru year 2 (BA/SWWH)
- VV12: BA Welsh History/History year 2 (BA/WHH)
- M1V5: LLB Law with Philosophy and Religion year 2 (LLB/LPR)
- V102: MArts History with International Experience year 2 (MARTS/HIE)
- V101: MArts History year 2 (MARTS/HIST)