Modiwl PCC-2002:
Dulliau Ymchwil IV
Dulliau Ymchwil 4 2024-25
PCC-2002
2024-25
School Of Human And Behavioural Sciences
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Emma Hughes-Parry
Overview
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar y dadansoddiadau meintiol a'r dulliau ymchwil yr ydych wedi dysgu ynghynt yn eich gradd. Bydd y modiwl yn dechrau gyda chrynodeb byr o’r ystadegau meintiol yr ydych wedi'u trafod o'r blaen, cyn cyflwyno gwybodaeth am ddadansoddiadau mwy cymhleth, megis ANOVA unffordd, ANOVA ffactoraidd, ANCOVA, MANOVA, a phrofion amharamedrig. Bydd darlithoedd hefyd yn cwmpasu dylunio arbrofol a moeseg ymchwil seicoleg. Mae'r modiwl hwn yn cynnwys darlith 2 awr yr wythnos yn ogystal â sesiwn labordy 1 awr. Yn ogystal, mae'r modiwl hwn yn cynnwys sesiynau POPPS wythnosol. Gofynnir i chi fynychu y darlithoedd yn ogystal â labordy a grwpiau POPPS, a noder y bydd presenoldeb yn cael ei recordio. Mae'r modiwl yn fodiwl craidd, sy'n golygu bod rhaid i chi basio gyda marc o > 40% i barhau i flwyddyn 3.
Assessment Strategy
-threshold - D - Adolygiad gwael o’r llenyddiaeth, gyda llawer o wallau o ran cyflwyniad a chywirdeb. Defnyddiwyd ychydig o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wael, gyda dipyn o wallau ffeithiol. Ychydig iawn o ganllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn. Dealltwriaeth wael o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir ym maes seicoleg. Dealltwriaeth wael o’r cynlluniau arbrofol gwahanol. Cyfathrebiad wael o wybodaeth ar lafar yn ystod trafodaethau sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Ni ddengys unrhyw hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
-good -B -- Adolygiad da o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd da o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n dda, gydag ychydig iawn o wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn dda.Dealltwriaeth dda o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir ym maes seicoleg. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn weddol glir. Cyfathrebiad da o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth da, gwaith annibynnol, a meddwl critigol yn ystod trafodaethau sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Hyfedr iawn wrth ddefnyddio SPSS.
-excellent -A - Adolygiad gwych o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu clir, cryno, a chywir. Defnydd gwych o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n wych, heb unrhyw wallau ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn wych.Dealltwriaeth gadarn o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir ym maes seicoleg. Dengys y gallu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol yn glir. Cyfathrebiad gwych o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth gadarn, gwaith annibynnol, a meddwl critigol yn ystod trafodaethau sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Hyfedredd gadarn wrth ddefnyddio SPSS.
-another level-C - Adolygiad boddhaol o’r llenyddiaeth, gyda chyfathrebu eithaf clir. Defnydd boddhaol o dystiolaeth i gefnogi’r pwyntiau a wnaethpwyd. Adroddiad ymchwil wedi ei ysgrifennu’n foddhaol, ond gydag ambell i wall ffeithiol. Canllawiau fformatio’r APA wedi eu dilyn yn foddhaol.Dealltwriaeth foddhaol o’r mesuriadau a’r ystadegau a ddefnyddir ym maes seicoleg. Dengys ychydig o allu i wahaniaethu rhwng cynlluniau arbrofol gwahanol. Cyfathrebiad boddhaol o wybodaeth ar lafar, gan ddangos dealltwriaeth boddhaol, ac ychydig o waith annibynnol yn ystod trafodaethau sy’n gysylltiedig ag ymchwil. Dengys ychydig o hyfedredd wrth ddefnyddio SPSS.
Learning Outcomes
- Casglu data gydag amrywiaeth o dechnegau arbrofol a gwahaniaethu rhwng y gwahanol gynlluniau arbrofol sydd ar gael ar gyfer ymchwil empirig yn seicoleg
- Cyfrifo a dehongli dadansoddiad ystadegol disgrifiadol a dehongli cynrychioliadau graffigol o ddata
- Cymryd rhan mewn ymchwil seicolegol barhaus trwy’r rhaglen SONA, yn ogystal ag aseiniadau gwaith cartref yn gysylltiedig ag arbrofion.
- Dangos dealltwriaeth fwy manwl o fesuriadau, arsylwadau a chynllunio arbrofol fel technegau methodolegol yn seicoleg.
- Dangos dealltwriaeth o'r ystadegau a ddefnyddir mewn ymchwil seicolegol, gyda phwyslais arbennig ar dechnegau ANOVA a'u dadansoddiad ystadegol.
- Dangos gallu i gyfathrebu ymchwil wyddonol ar lafar ac ar bapur.
- Cynhyrchu adroddiad ymchwil graenus sy'n dilyn canllawiau'r APA
Assessment type
Summative
Weighting
15%
Assessment type
Summative
Weighting
30%
Assessment type
Summative
Weighting
30%
Assessment type
Summative
Weighting
2%
Assessment type
Summative
Weighting
4%
Assessment type
Summative
Weighting
5%
Assessment type
Summative
Weighting
5%
Assessment type
Summative
Weighting
2%
Assessment type
Summative
Weighting
2%
Assessment type
Summative
Weighting
2.5%
Assessment type
Summative
Weighting
2.5%