Modiwl WMC-4106:
Project Ymchwil Annibynnol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
30.000 Credyd neu 15.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Pwyll ap Sion
Amcanion cyffredinol
Disgwylir i fyfyrwyr ddewis testun ymchwil penodol yn eu meysydd arbenigol – Cerddoreg, Ethnogerddoreg neu astudiaeth gymhwysol. Bydd yr unigolyn yn gyfrifol am ddiffinio eu testun, ond rhaid cymeradwyo’r maes astudio gan gydlynydd y modiwl erbyn dydd Gwener Wythnos 13 yn Semestr 1. Bydd cyfle i’r myfyriwr gymhwyso’r gallu, y wybodaeth a’r fethodoleg a gafodd eu meithrin yn eu hastudiaethau yn ystod Semestr 1.
Caniateir i chi gyflwyno’r prosiect terfynol ar ffurf traethawd, neu mewn cyfrwng gwahanol (e.e. golygiad, dadansoddiad, gweithdy) ynghyd a sylwebaeth ysgrifenedig.
Cynnwys cwrs
Bydd cynnwys y cwrs yn amrywio rhwng y myfyrwyr unigol, yn dibynnu ar eu meysydd diddordeb a’u harbenigedd eu hunain.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy (50-59) Gwaith sy’n dangos gafael dda ar wybodaeth ffeithiol, gyda gallu digonol i feddwl yn gysyniadol, a pheth ymwybyddiaeth o faterion methodolegol (er yn gyfyngedig), a dangos digon o dystiolaeth o ymdriniaeth gyffredinol ddeallusol, gyda mynegiant gweddol.
ardderchog
Rhagorol (70+) Gwaith sy’n dangos dealltwriaeth drylwyr o’r pwnc, gyda thystiolaeth o astudiaeth estynedig, meddwl yn gysyniadol a phraff, ymdriniaeth wreiddiol a medrau cyflwyno rhagorol.
da
Da (60-69) Gwaith sy'n dangos gafael cadarn ar y pwnc, gyda lefel dda o feddwl yn gysyniadol, ymwybyddiaeth o faterion methodolegol a materion eraill, ynghyd â thystiolaeth o finiogrwydd deallusol a mynegiant da.
Canlyniad dysgu
-
Arddangos y gallu i gynllunio a gwireddu prosiect ymchwil annibynnol.
-
Meithrin arbenigedd a dealltwriaeth fanwl o’r testun ymchwil
-
Amlygu’r gallu i werthuso a chymhwyso ystod eang o sgiliau ymchwil
-
Mireinio sgiliau beirniadol a dadansoddol
-
Arddangos sgiliau ysgrifennu, trafod a chyflwyno llafar
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Amlinelliad | 10.00 | ||
Cyflwyniad Llafar | 20.00 | ||
Traethawd | 70.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Astudiaeth Breifat – amser darllen, paratoi a gwneud asesiadau 287 awr |
285 |
Colocwiwm ar gyfer cyflwyniadau |
4 | |
Tutorial | Goruchwyliaeth unigol (arolygaeth hyd at 2 awr bob pythefnos dros gyfnod o 11 wythnos) |
11 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Nid oes unrhyw oblygiadau adnoddau penodol i fyfyrwyr.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3AH: MA Music year 1 (MA/MUS)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3BJ: MA Music with Education year 1 (MA/MUSED)
- W3BG: MMus Performance year 1 (MMUS/MUSP)