Modiwl WXC-1301:
Cerddoriaeth 1550 - 1850
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Mr Stephen Rees
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i astudiaethau cerddolegol trwy arolwg o hanes cerddoriaeth rhwng 1550 a 1850, ynghyd â chyfres o weithdai ar sgiliau astudio uwch.
Mae'r modiwl yn gwneud arolwg o weithiau mewn amrywiaeth o genres 'clasurol', a rhai poblogaidd, yn ystod y cyfnod 1550–1850. Gosodir newidiadau a datblygiadau mewn arddull gerddorol yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetaidd. Yn ogystal, mae myfyrwyr yn edrych ar nifer o weithiau yn fanwl mewn seminarau, gan eu hastudio fel testunau cerddorol drwy ddadansoddiad, ac ymchwilio i amgylchiadau eu cyfansoddi.
Cynnwys cwrs
- Gallai rhestr o bwnciau darlith gynnwys:
- Palestrina ac Oes Aur Poliffoni
- Monteverdi: Yr Hen a'r Newydd
- Cerddoriaeth yng Nghymru hyd at 1600
- Cerddoriaeth yn Llundain Elisabeth I
- Gwreiddiau opera yn yr Eidal
- Twf cerddoriaeth offerynnol yn yr 17eg ganrif
- Y concerto yn y cyfnod Baróc
- Cerddoriaeth ym Mhrydain yng nghyfnod yr Adferiad
- Hegemoni ffurf sonata
- Bach
- Vivaldi
- Handel: Opera yn y cyfnod Baróc uchel
- Opera yn y Cyfnod Clasurol
- Operâu Mozart
- Y concerto Clasurol
- Pedwarawdau llinynnol a Symffonïau
- Beethoven
- Schubert a'r Lied
- Fanny a Felix Mendelssohn
- Y virtuosi: Paganini, Chopin, a Liszt
- Opera yn y Cyfnod Rhamantaidd Cynnar
- Verdi
Meini Prawf
da
C– i B+: Gwaith sy’n dangos gafael gadarn ar y pwnc, meddwl cysyniadol da, tystiolaeth o graffter deallusol, ac wedi ei fynegi’n glir a diddorol.
ardderchog
A– i A**: Gwaith sy’n dangos gafael drwyadl ar y pwnc, gyda thystiolaeth o astudio pellach a meddwl cysyniadol dyfnach, gyda pheth gwreiddioldeb mewn dull ymdrin, ac wedi ei fynegi’n drefnus ac argyhoeddiadol.
trothwy
D– i D+: Gwaith sy’n ddangos gwybodaeth gyfyngedig o’r pwnc, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ychydig dystiolaeth o ymdriniaeth ddeallusol wirioneddol, ond a fynegir yn ddealladwy serch hynny.
Canlyniad dysgu
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu arddangos gwybodaeth o amgylchiadau hanesyddol a diwylliannol sydd wedi effeithio ar gerddoriaeth a gyfansoddwyd rhwng 1550 a 1850.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu cyfathrebu syniadau yn effeithiol.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu adnabod repertoire penodol wrth y glust.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu arddangos gwybodaeth o weithiau, arddullau, genres, ac arweddion cerddorol mewn repertoire a gyfansoddwyd rhwng 1550 a 1850.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu dadansoddi cerddoriaeth o berfformiadau a sgoriau.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu ymchwilio testunau ar hanes cerddoriaeth ar ei b/phen ei hunain.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cyfranogi yn y seminarau | 20.00 | ||
Prawf repertoire 1 | 10.00 | ||
Prawf Repertoire 2 | 10.00 | ||
Traethawd 1 (byr) | 20.00 | ||
Traethawd 2 (hirach) | 40.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 22 o ddarlithoedd, 2 yr wythnos, awr yr un. |
22 |
Seminar | 6 seminar, 1 pob pythefnos, awr yr un. |
6 |
Workshop | 5 gweithdy sgiliau astudio uwch, 1 pob pythefnos, gan edrych ar sgiliau pwnc penodol a sgiliau trosglwyddadwy. |
5 |
Private study | Gwrando paratoawl cyn y darlithoedd, darllen a gwrando paratoawl cyn y seminarau, ymchwil ar gyfer traethodau. |
167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Nid oes goblygiadau ar gyfer myfyrwyr o ran adnoddau.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-1301.htmlRhestr ddarllen
Mae'r rhestr ddarllen ar gael drwy Talis.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 1 (BA/ACC)
- 32N6: BA English Literature and Music year 1 (BA/ELM)
- 32N7: BA English Literature & Music with International Experience year 1 (BA/ELMIE)
- VW13: BA History and Music year 1 (BA/HMU)
- VW14: BA History and Music with International Experience year 1 (BA/HMUIE)
- WW39: BA Music and Creative Writing with International Experience year 1 (BA/MCWIE)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 1 (BA/MHIE)
- W303: BA Music (with International Experience) year 1 (BA/MIE)
- PW33: BA Media Studies and Music year 1 (BA/MSMUS)
- WR33: BA Music/Italian year 1 (BA/MUIT)
- W300: BA Music year 1 (BA/MUS)
- WW38: BA Music and Creative Writing year 1 (BA/MUSCW)
- W30F: BA Music [with Foundation Year] year 1 (BA/MUSF)
- WW36: BA Music and Film Studies year 1 (BA/MUSFS)
- W305: BA Music with Game Design year 1 (BA/MUSGD)
- W3R8: BA Music and Modern Languages year 1 (BA/MUSML)
- W3W4: BA Music with Theatre & Performance year 1 (BA/MUSTP)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 1 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 1 (BMUS/MUS)
- W32F: BMus Music [with Foundation Year] year 1 (BMUS/MUSF)
- H6W3: BSc Electronic Engineering and Music year 1 (BSC/EEM)