Modiwl WXC-2269:
Lleoliad Cymunedol Celfyddydol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Gwawr Ifan
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl yn galluogi myfyrwyr i:
- Archwilio amrywiol agweddau o reoli a gweinyddu'r celfyddydau;
- Gael syniad clir o'r amrywiaeth o sgiliau personol a phroffesiynol sydd eu hangen mewn gwaith gweinyddu celfyddydol;
- Ddatblygu gwybodaeth am y sylfaen theoretig sydd wrth wraidd eu dull o ymdrin â hyrwyddo a rheoli'r celfyddydau;
- Ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar gyfer gweinyddu'r celfyddydau;
- I wneud astudiaeth benodol o agwedd nodedig o weithgaredd cymunedol, fyddai o bosibl yn cynnwys dadansoddi adnoddau cyfredol a chreu argymhellion ar gyfer gwelliannau;
- Creu adroddiad manwl yn dadansoddi'r prosiect, fydd yn adnabod y cyflawniadau a'r heriau a wynebwyd.
Cynnwys cwrs
Mae’r modiwl hwn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr i gael rhywfaint o wybodaeth weithredol - yn theoretig ac yn ymarferol - ym maes gweinyddiaeth y celfyddydau. Yn ystod y flwyddyn, bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn ymgymryd â lleoliad annibynnol estynedig o o leiaf 40 awr yn y gymuned, gan anelu at gyflawni gôl benodol. Gall hwn fod yn ardal Bangor neu leoliad arall: mae lleoliadau posibl yn cynnwys canolfannau celf neu leoliadau eraill (e.e. Gwyliau, canolfannau cerdd, cerddorfa). Bydd briff penodol i’r prosiect, gyda tharged(au) clir a chyraeddadwy: gallai olygu gwneud ymchwil o’r farchnad ar ran canolfan gelfyddydol, gyda’r bwriad o greu cyfres o argymhellion ar bolisi, neu gallai olygu trefnu cyfres o weithdai addysgiadol ar thema benodol ar gyfer ysgol neu ysgolion lleol. Gall myfyrwyr rannu'r un lleoliad (e.e. Gwyl Gerdd Bangor) os ydy eu cyfrifoldebau penodol wedi eu nodi yn amlwg yn eu briff personol hwy.
Meini Prawf
da
Gwaith sy’n dangos gafael gadarn ar y pwnc, meddwl cysyniadol da, tystiolaeth o graffter deallusol, ac wedi ei fynegi’n glir a diddorol.
ardderchog
Gwaith sy’n dangos gafael drwyadl ar y pwnc, gyda thystiolaeth o astudio pellach a meddwl cysyniadol dyfnach, gyda pheth gwreiddioldeb mewn dull ymdrin, ac wedi ei fynegi’n drefnus ac argyhoeddiadol
trothwy
Gwaith sy’n ddangos gwybodaeth gyfyngedig o’r pwnc, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ychydig dystiolaeth o ymdriniaeth ddeallusol wirioneddol, ond a fynegir yn ddealladwy serch hynny.
Canlyniad dysgu
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi’r sylfaen ddamcaniaethol sy’n sail i hyrwyddo’r celfyddydau yn y gymuned yn effeithiol.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu dadansoddi’r gwahanol ffactorau sy’n rhan o reoli’r celfyddydau.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu ymgymryd â chyfrifoldebau gweinyddol, personol a chymdeithasol penodol o fewn i gyd-destun cymunedol penodol, sy’n cynnwys cyflawni gwaith annibynnol sylweddol.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu cyflawni astudiaeth benodol o agwedd nodedig o weithgaredd cymunedol.
-
Ar ôl cwblhau’r modiwl, bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio ystod o fedrau cyfathrebu, fel sy’n briodol i’r lefel hon o astudio.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
LLYFR LOG NEU BORTFFOLIO | Logiau | Bydd amlinelliad o'r logiau yn cael ei roi ar Blackboard ar ddechrau'r modiwl. |
25.00 |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Cyflwyniad | Bydd rhestr o destunau'r cyflwyniad ar gael yn llawlyfr y modiwl a gyflwynir i'r myfyrwyr ar ddechrau'r modiwl. |
25.00 |
ADDRODDIAD | Adroddiad o'r lleoliad | Bydd angen i'r myfyrwyr gadarnhau'r briff ar gyfer eu lleoliad erbyn yr wythnos ddarllen. |
50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Bydd hwn yn cynnwys paratoi ar gyfer dosbarthiadau ac aseiniadau. |
141 |
Tutorial | Bydd goruchwyliaeth unigol o hyd at 4 awr ar gael, yn ôl y galw. |
4 |
Lecture | I'w cynnal yn wythnosau 1, 3, 5, 7 a 9. |
15 |
Work-based learning | Bydd myfyrwyr yn treulio o leiaf 40 awr ar leoliad. |
40 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Os yw'n berthnasol i'r prosiect, y myfyrwyr fydd yn gyfrifol am: - drefnu gwiriad swyddfa cofnodion troseddol (DBS) - dalu costau teithio i/o leoliad y prosiect.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-2269.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 2 (BA/ACC)
- WW93: BA Creative Studies and Music year 2 (BA/CSTMUS)
- 32N6: BA English Literature and Music year 2 (BA/ELM)
- 32N7: BA English Literature & Music with International Experience year 2 (BA/ELMIE)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 2 (BA/HCAC)
- VW13: BA History and Music year 2 (BA/HMU)
- VW14: BA History and Music with International Experience year 2 (BA/HMUIE)
- W3H6: BA Music and Electronic Engineering year 2 (BA/MEE)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 2 (BA/MHIE)
- PW33: BA Media Studies and Music year 2 (BA/MSMUS)
- RW13: BA Music/French year 2 (BA/MUFR)
- WR32: BA Music/German year 2 (BA/MUGE)
- WR33: BA Music/Italian year 2 (BA/MUIT)
- WW38: BA Music and Creative Writing year 2 (BA/MUSCW)
- WW36: BA Music and Film Studies year 2 (BA/MUSFS)
- WR34: BA Music/Spanish year 2 (BA/MUSP)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 2 (BA/PRM)
- VW2H: BA Welsh History and Music year 2 (BA/WHMU)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- H6W3: BSc Electronic Engineering and Music year 2 (BSC/EEM)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- T103: BA Chinese and Creative Studies year 2 (BA/CHCS)
- WPQ0: BA Creative Studies year 2 (BA/CST)
- WPQB: BA Creative Studies (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (BA/CST1)
- WQ93: BA Creative Stds & English Lang. year 2 (BA/CSTEL)
- WR91: BA French and Creative Studies year 2 (BA/CSTFR)
- WR92: BA German and Creative Studies year 2 (BA/CSTG)
- WR93: BA Italian and Creative Studies year 2 (BA/CSTITAL)
- WR94: BA Spanish & Creative Studies year 2 (BA/CSTSP)
- W303: BA Music (with International Experience) year 2 (BA/MIE)
- W300: BA Music year 2 (BA/MUS)
- W30F: BA Music [with Foundation Year] year 2 (BA/MUSF)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 2 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 2 (BMUS/MUS)
- W32F: BMus Music [with Foundation Year] year 2 (BMUS/MUSF)