Modiwl XAC-3023:
Traethawd Hir
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Educational Sciences
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Dr Margiad Williams
Amcanion cyffredinol
Astudiaeth annibynnol yw modiwl y traethawd hir ar bwnc o ddewis y myfyriwr, a gytunir gyda'r tiwtor astudio yn ystod Blwyddyn 2 ar sail maes diddordeb academaidd sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc. Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gynllunio a chynnal astudiaeth ymchwil ar raddfa fach a derbyn adborth diagnostig rheolaidd gan y tiwtor. Bydd myfyrwyr yn canolbwyntio ar ymchwil drwyadl i’r maes a ddewisir, gan gynnwys adolygu’r llenyddiaeth, gwneud tasgau ymchwil, casglu data ansoddol ac/neu feintiol, defnyddio sgiliau dadansoddi a chyfuno mewn ffordd briodol a chyflwyno dadl argyhoeddiadol wedi ei strwythuro'n dda.
Cynnwys cwrs
Mae’r modiwl yn adeiladu ar gynnwys Modiwl XAC 2033 ac fe'i cynlluniwyd er mwyn caniatáu i fyfyrwyr lunio traethawd hir sylweddol yn annibynnol. Mae’r myfyrwyr yn dewis eu maes astudio yn unol â’u diddordebau a’u profiadau eu hunain ym maes plant a phobl ifanc. Mae tiwtoriaid goruchwylio’n rhoi cefnogaeth i drafod meysydd ymchwil priodol, cyfeiriad a strwythur yr astudiaeth, a natur a dyfnder y gwaith. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth diagnostig yn rheolaidd wrth iddynt gyflwyno penodau drafft.
Meini Prawf
trothwy
Dealltwriaeth boddhaol o beth yw prosiect ymchwil effeithiol; gallu i ddewis testun a gweithredu ymchwil derbyniol ynghyd a chyflwyno tystiolaeth a pheth dadansoddi.
da
Dealltwriaeth da o beth yw prosiect ymchwil effeithiol; gallu i ddewis testun addas a gweithredu ymchwil effeithiol, ynghyd a dadansoddi a chloriannu’r dystiolaeth yn dda.
ardderchog
Dealltwriaeth cynhwysfawr o beth yw prosiect ymchwil effeithiol; gallu i ddewis testun addas a gweithredu ymchwil effeithiol ac eang, ynghyd a dadansoddi a chloriannu’r dystiolaeth yn ardderchog gan ddangos gwreiddioldeb.
Canlyniad dysgu
-
Egluro canfyddiadau a goblygiadau allweddol yr ymchwil yn glir yn weledol ac ar lafar
-
ymchwilio i bersbectifau cymdeithasegol, seicolegol, athronyddol neu hanesyddol yn ymwneud â phlant a phobl ifanc;
-
gwerthuso’n feirniadol amrywiaeth o lenyddiaeth ac ymchwil yn ymwneud â maes astudio perthnasol;
-
cyflawni tasgau ymchwil cymhleth a dadansoddi a chyfuno data mewn perthynas â ffocws yr ymchwil;
-
gwerthuso’n feirniadol canfyddiadau allweddol yn feirniadol a thrafod goblygiadau’r ymchwil;
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Cyflwyniad | 15.00 | ||
Traethawd Hir | 85.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Practical classes and workshops | Bangor Oral Presentation Scheme |
11 |
(a) Amser Cyswllt - e.e., 20 awr (b) Astudio Annibynol - amser darllen, paratoi a gwneud aseiniadau: 369 awr Dull Dysgu: Sesiynau: 12 awr Arall: 8 awr Strategaeth Dysgu: Mae'r modiwl yn un hunan-astudio gyda chymorth fel ganlyn: 1. Tiwtorialau grwp neu unigol gyda goruchwyliwr: 8 awr (ar draws y ddau dymor) 2. Sesiynau galw heibio traethawd hir (wedi'i trefnu ar draws y ddau dymor) |
389 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Sgiliau pwnc penodol
- reflect upon a range of psychological sociological health historical and philosophical perspectives and consider how these underpin different understandings of babies and young children and childhood
- apply multiple perspectives to early childhood issues recognising that early childhood studies involves a range of research methods theories evidence and applications
- integrate ideas and findings across the multiple perspectives in early childhood studies and recognise distinctive early childhood studies approaches to relevant issues
- lead support and work collaboratively with others and demonstrate an understanding of working effectively in teams with parents carers and other professionals 11
- use skills of observation and analysis in relation to aspects of the lives of babies and young children
- reflect upon the ethics of studying babies and young children and their families and communities
- generate and explore hypotheses and research questions relating to early childhood in an ecological context
- carry out empirical studies ethically involving a variety of methods of data collection including observation relating to early childhood in an ecological context
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 3 (BA/API)
- X313: BA Childhood and Youth Studies year 3 (BA/CYS)