Modiwl DXC-3014:
Materion Cyfoes: Daear. Ddynol
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Natural Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr Eifiona Lane
Amcanion cyffredinol
Mae hyn yn fodwl 20 credyd sydd yn seiliedig ar ymchwil yr unigolyn ac yn galluogi’r myfyriwr i ymchwilio yn ddwfn i mewn i fater cyfoes mewn Daearyddiaeth Ddynol, a hynny ar ffurf ymchwil o lenyddiaeth. Cynhelir y modwl yn semester 2 a chynnyrch y gwaith cwrs fydd traethawd ar un pwnc ymchwil a phapur seminar a chyflwyniad llafar ar ail bwnc. Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio yn ddwfn i’w pwnc dewisol ; fe fydd hyn yn seiliedig ar ymgynghoriad a thrafodaeth gyda’r cydlynydd modwl. Gall hyn adlewyrchu diddordebau’r unigolyn neu fod wedi ei gynnig gan y cydlynydd. Rhoddir gysidraeth i faterion ar lefel bydol ond gyda phwyslais ar faterion Ewropeaidd a lleol. Dylai’r prosiect fod yn wahanol i’r hyn ddewiswyd fel testun prosiect ymchwil y myfyriwr.
Dylai myfyrwyr ddangos mynediad at amrediad o adnoddau gan gynnwys cyfnodolion academaidd wedi’u canoli , testunau ar ffurf electroneg yn ogystal â phrint, ynghyd ag ystod eang o adroddiadau yn y wasg ac ar y rhyngrwyd.
Cynnwys cwrs
Mae’r modwl hwn yn rhedeg yn semester 2 ac yn galluogi’r myfyriwr i wneud ymchwil unigol llenyddol ddwfn ar fater cyfoes mewn daearyddiaeth ddynol., gan edrych ar ddwy thema wahanol. Caiff canlyniadau’r ymchwil o’r thema gyntaf eu cyflwyno ar ffurf traethawd , gyda phapur seminar a chyflwyniad llafar ar yr ail thema. Mae’r papur seminar yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa o gyfoedion o’r modwl. Rhaid defnyddio ystod briodol o ffynonellau i gynnal yr ymchwil a dylai’r prosiect fod yn wahanol o’r hyn ddewisir fel pwnc Prosiect Anrhydedd y myfyriwr. Dewisir y pwnc gan y myfyrwyr, thrwy ymgynghoriad gyda chydlynydd modwl.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy (Safon Pasio : D- i D+)
a. Dim esgeulustod neu wybodaeth anghywir o ran sgiliau trefnu gwybodaeth
b. Peth deallusrwydd o elfennau damcaniaethol/ cysyniadol / ymarferol.
c. Cyfuno ysbeidiol o ddamcaniaeth / gwybodaeth / ymarferoldeb er mwyn cyflawni gofynion y dasg.
ch.Defnydd o lenyddiaeth brimaidd.
da
Da (Safon Ganolog i safon uchel Pasio: C- I B+)
a. Peth neu’r rhan fwyaf o wybodaeth a sgiliau cyflwyno gwybodaeth wedi’u harddangos yn glir
b. Gafael da/ gweddol ar elfenneu ddamcaniaethol/ cysyniadol / ymarferol
c. Integreiddiad da / gweddol o ddamcaniaeth / gwybodaeth / ymarferoldeb er mwyn cyflawni gofynion y dasg.
ch .Tystiolaeth o ddefnydd sgiliau gwerthusol a chreadigol
d. Defnydd critigol o lenyddiaeth brimaidd a llenyddiaeth eraill rhoddir yn y ddarlith.
ardderchog
Gwych (Safon wych Dosbarth Cyntaf: A- i A**)
a. Perfformiad caboledig , medrus dros ben .
b. Y wybodaeth ymchwil wedi’u harddangos yn gywir.
c. Gafael gwych o elfenneu ddamcaniaethol/ cysyniadol / ymarferol
ch. Integreiddiad da o ddamcaniaeth / gwybodaeth / ymarferoldeb er mwyn cyflawni gofynion y dasg.
d. Tystiolaeth gref o ddefnydd sgiliau gwerthusol a chreadigol
dd. Defnydd critigol o lenyddiaeth brimaidd a llenyddiaeth eraill rhoddir yn y ddarlith., y tu hwnt i’r disgwyl.
Canlyniad dysgu
-
I ddeall mater daearyddol penodol mewn dyfnder
-
I arddangos y gallu i gynnal ymchwil
-
I ddangos defnydd priodol o ffynonellau
-
I ddangos y gallu i arfarnu llenyddiaeth briodol yn gritigol
-
I ddeall sut mae’r mater wedi ei phortreadu a’i chynrychioli gan y cyfryngau
-
I fedru cyflwyno ymchwil i gynulleidfa o gyfoedion , yn weledol ac ar lafar.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Seminar defence oral presentation | 20.00 | ||
Essay | 40.00 | ||
Seminar Paper | 30.00 | ||
Seminar Paper - One page precis | 10.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Workshop | Introductory workshop |
2 |
Private study | Private study and preparation of essay, defended seminar paper, powerpoint presentation for seminar defence, peer review of all other seminar abstracts. |
176 |
Lecture | Darlithoedd 2 x 2 awr |
4 |
Tutorial | 8 x1 hours drop in tutorials to enable the student to focus on topics for the Essay and Defended Seminar paper and narrow them to specific themes. |
8 |
Practical classes and workshops | Information sourcing. |
2 |
Seminar | Cyflwyniadau papurau seminar - 3 awr |
8 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
Process management : 1. Organisation - able to coordinate an administer workloads efficiently 2. Prioritisation - able to rank tasks according to level of importance 3. Planning - able to set achievable goals and structure the necessary action, using SMART GOAL techniques. 4. Complexity managementable to handle ambiguous and complex situations and their consequences 5. Decision making - able to decide firmly, clearly and swiftly upon a course of action from a series of options 6. Evaluation - able to examine the outcomes of tasks and events from a personal and organisational viewpoint also judge levels of quality and importance Relating to working practices Independence- able to work and demonstrate that you can work to an appropriate level with minimal supervision to take appropriate action and arrange activities without having to be prompted Adaptability - able to respond positively to changing circumstances and new challenges . Positive attitude - having an optimistic and proactive approach to the other users Stress tolerance- able to retain effectiveness and be efficient under pressure Willingness to learn - Committed to continual learning and professional development.
These criteria have been drawn from the Skills & Qualities Analysis of the Bangor Employability Award and are used with kind permission.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/dxc-3014.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- F801: MGeog Geography year 3 (MGEOG/G)
- F805: MGeog Geography with International Experience year 4 (MGEOG/GIE)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- L700: BA Geography year 3 (BA/GEOG)
- L701: BA Geography (with International Experience) year 4 (BA/GEOGIE)
- F800: BSC Geography year 3 (BSC/GEOG)
- F806: BSc Geography (4 yr with placement) year 3 (BSC/GEOG4)
- F802: BSc Geography (with International Experience) year 4 (BSC/GEOGIE)
- F801: MGeog Geography year 3 (MGEOG/G)
- F805: MGeog Geography with International Experience year 4 (MGEOG/GIE)