Modiwl LCS-1004:
Sbaeneg i Ddechreuwyr II
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Dr David Miranda-Barreiro
Amcanion cyffredinol
- Gwella dealltwriaeth sylfaenol myfyrwyr o'r iaith Sbaeneg a datblygu dealltwriaeth fwy manwl o elfennau gramadegol.
- Datblygu sgiliau cyfieithu testunau byr o'r Sbaeneg a chynhyrchu darnau ehangach, megis traethodau byr a llythyrau yn Sbaeneg .
- Datblygu sgiliau llafar a hyder wrth siarad Sbaeneg.
- Datblygu dealltwriaeth o Sbaeneg ysgrifenedig ac ehangu geirfa. .
- Datblygu'r gallu i ddeall ac ymateb i wybodaeth fwyfwy cymhleth mewn Sbaeneg ffurfiol ac anffurfiol.
Bydd myfyrwyr ar y modiwl hwn yn anelu at gyrraedd safon B1 ar y Fframwaith Ewropeaidd Cyffredinol ar gyfer Ieithoedd (CEFR).
Cynnwys cwrs
Mae'r modiwl hwn wedi ei anelu at fyfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf sydd wedi astudio Sbaeneg i Ddechreuwyr a Myfyrwyr Canolradd 1. Nod y modiwl hwn yw datblygu'r sgiliau llafar, clywedol ac ysgrifenedig sylfaenol a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn i fyfyrwyr ddatblygu'r hyfedredd sy'n cyfateb i safon Lefel A. Bydd myfyrwyr yn defnyddio'r egwyddorion gramadegol a ddysgwyd yn semester 1 i ysgrifennu darnau estynedig a byddant hefyd yn canolbwyntio ar strwythurau gramadegol mwy cymhleth (y goddefol, y modd dibynnol, y modd gorchmynnol). Datblygir sgiliau gwrando trwy ymarferion gwrando a deall gyda thapiau sain a fideo a bydd gofyn i fyfyrwyr roi cyflwyniadau unigol ar bynciau mwy cymhleth.
Gwerslyfr: Kattán, Juan, ac Angela Howkins, Spanish Grammar in Context, 3rd edn (New York: Routledge, 2014)
Meini Prawf
trothwy
40-49%: Trothwy Gafael gyfyngedig ar eirfa a gramadeg a gallu cyfyngedig i gyfieithu ac aralleirio amrywiaeth o destunau gosod. Gallu llafar a chlywedol sylfaenol.
da
50-69%: Da Gafael gadarn ar eirfa a gramadeg a’r gallu i gyfieithu ac aralleirio’r amrywiaeth testunau gosod yn fedrus. Gallu llafar a chlywedol da.
ardderchog
70+%: Rhagorol Gafael ragorol ar eirfa a gramadeg a gallu rhagorol i gyfieithu ac aralleirio amrywiaeth o destunau gosod. Gallu llafar a chlywedol rhagorol.
Canlyniad dysgu
-
Cynhyrchu darnau ysgrifenedig estynedig a llythyrau ffurfiol.
-
Cyfathrebu'n hyfedr yn yr iaith darged am amrywiaeth o bynciau mwy cymhleth.
-
Defnyddio geiriau a strwythurau gramadegol newydd wrth fynegi eu hunain ar lafar ac yn ysgrifenedig.
-
Darllen a deall hysbysiadau, hysbysebion ac erthyglau papur newydd yn yr iaith darged.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Assignment | 20.00 | ||
Test | 20.00 | ||
Oral Exam | 20.00 | ||
Written Exam | 40.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Seminarau - 4 awr yr wythnos am 11 wythnos (3 awr sgiliau ysgrifennu ac 1 awr sgiliau llafar/gwrando). |
48 |
Private study | 152 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.