Modiwl WXC-2191:
Ysgrifennu Caneuon
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Music, Drama and Performance
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Pwyll ap Sion
Amcanion cyffredinol
Cynnig cyflwyniad i’r myfyriwr i rai o elfennau pwysig wrth gyfansoddi caneuon. Cynigir dadansoddiadau o elfennau sy’n berthnasol i ganeuon poblogaidd o’r 1960au ymlaen er mwyn darparu’r myfyriwr i weithio yn unigol ac ar y cyd i ddatblygu syniadau ar gyfer perfformio, recordio a chyfansoddi caneuon, neu drefniannau o ganeuon eraill, fel rhan o asesiad y modiwl.
Cynnwys cwrs
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno yn ystod y darlithoedd i sylfeini cyfansoddi caneuon, gan gynnwys alaw (siapio alawol), harmoni (patrymau harmonig), ffurfiau penodol, gosod geiriau (lliwio geiriol), rhythm, gwead, ac yn y blaen. Trafodir yr elfennau hyn mewn perthynas ag idiomau ac arddulliau sy’n perthyn i ganeuon artistiaid megis Elton John a Joni Mitchell yn ystod y 1970au at arddulliau pop a roc mwy diweddar. Er mwyn cwblhau’r modiwl yn llwyddiannus, fe fydd angen i’r myfyriwr gynhyrchu portffolio o ganeuon a threfniannau o ganeuon gan un ai eu perfformio yn unigol neu mewn grŵp, neu eu recordio i safon boddhaol, neu wedi eu cyfansoddi a’u prosesu ar feddalwedd megis Sibelius.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy: D- - D+
Bydd yr ymarferiadau a gyflwynir yn dangos dychymyg creadigol cyfyngedig, rheolaeth gyfyngedig ar ddeunyddiau cerddorol, y ddealltwriaeth leiaf o’r hyn y gall yr adnoddau (p’un a fyddent yn offerynnol neu’n lleisiol) ei wneud, a thystiolaeth brin o feddwl deallusol. Mae’r cyflwyniad yn dangos diffyg ymchwil, ac ynddo’i hun yn wael.
da
Da: C- - B+
Bydd yr ymarferiadau a’r aseiniadau yn dangos lefel ddymunol o ddychymyg creadigol, gyda rheolaeth a datblygiad da ar ddeunyddiau cerddorol, ar sail hyfedredd technegol yn nefnydd adnoddau (offerynnol a/neu leisiol). Ceir hefyd dystiolaeth o graffter deallusol. Mae’r cyflwyniad yn dangos ôl ymchwil drylwyr, ac ynddo’i hun yn dda.
ardderchog
Ardderchog: A- - A*
Mae’r ymarferiadau a’r aseiniadau yn dangos lefel uchel o ddychymyg creadigol, gyda nodweddion unigol yn ymddangos o ran llais cyfansoddiadol a thelynegol, rheolaeth a datblygiad medrus ar ddeunyddiau cerddorol, a meistrolaeth dechnegol ar adnoddau (offerynnol a/neu leisiol). Ceir hefyd dystiolaeth o lefel uchel o allu o ran meddwl yn gysyniadol, craffu ar faterion perthnasol, gwreiddioldeb o ran ymdriniaeth a dealltwriaeth. Mae’r cyflwyniad yn dangos ôl ymchwil fanwl, ac ynddo’i hun o safon uchel.
Canlyniad dysgu
-
Meddu ar y sgiliau a’r dulliau i’w galluogi i gyfansoddi caneuon i safon addas ar gyfer y lefel yma;
-
Meddu ar wybodaeth am arddulliau a thechnegau ysgrifennu caneuon;
-
Datblygu’r sgiliau angenrheidiol i gyflwyno gwaith i safon sy’n dderbyniol ar y lefel yma;
-
Meddu ar y ddawn i fynegi syniadau deallus ynglyn ag arddulliau caneuon a’u datblygiad hanesyddol, gan osod agweddau methodolegol a chysyniadaol addas i enghreifftiau penodol.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
GWAITH CWRS | Gwaith Cwrs 1 | Cyfres o ymarferiadau byr yn seiliedig ar alaw, rhythm a chyfeiliant. Fe fydd gan y myfyriwr yr opsiwn o gyflwyno’r asesiad yma un ai (1) mewn nodiant llawn, neu (2) fel recordiad awdio, ynghyd â thaflen arweiniol (lead sheet); |
10 |
GWAITH CWRS | Aseiniad 1 | Fe fydd angen i’r myfyriwr gyflwyno trefniannau o ddwy gân. Fe fydd y gân gyntaf yn enghraifft benodol wedi ei osod gan gydlynydd y modiwl (fe fydd y gân yn wahanol ar gyfer Blynyddoedd 2 a 3). Fe fydd yr ail yn drefniant o gân wedi ei ddewis gan y myfyriwr, oddeutu 3 munud o ran hyd. Fe fydd disgwyl i’r myfyriwr gynnwys copi o fersiwn wreiddiol o’r gân gyda’u cyflwyniad (un ai fel trac mp3 neu mewn nodiant a ddefnyddiwyd ganddo/ganddi ar gyfer ei threfniant), ynghyd â’r geiriau lle bo’n berthnasol. Fe fydd gan y myfyriwr yr opsiwn o gyflwyno y ddwy gân un ai (1) mewn nodiant cerddorol llawn; (2) fel recordiad awdio, ynghyd â thaflen arweiniol; neu (3) mewn perfformiad byw yn Wythnos 8 o’r dosbarth (am fwy o fanylion ynglŷn â perfformiadau byw, gweler y sylwadau isod). Mae trefniant offerynnol o gân yn dderbyniol hefyd. |
30 |
GWAITH CWRS | Aseiniad 2 | Cyflwyniad o ddwy gân wreiddiol yn cyfateb i rhwng 6-7 munud (ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 2) neu rhwng or 7-8 munud (ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 3). Gall y geiriau fod yn wreiddiol neu gan rhywun arall, ac un ai yn Gymraeg neu’n Saesneg. Fe fydd opsiwn i gyflwyno’r caneuon un ai (1) mewn nodiant cerddorol llawn; (2) fel recordiad awdio, ynghyd â thaflen arweiniol; neu (3) mewn perfformiad byw i’w gynnal yn Wythnos 13, gyda’r union ddyddiad i’w gadarnhau (am fwy o fanylion ynglŷn â perfformiadau byw, gweler y sylwadau isod). |
40 |
CYFLWYNIAD UNIGOL | Cyflwyniad | Cyflwyniad o oddeutu 8 munud o hyd yn trafod cân ddewis y myfyriwr. Gall fod yn gân mae’r myfyriwr yn ei edmygu neu’n gân wedi ei ysgrifennu gan y myfyriwr. Fe ddylai’r cyflwyniad ddefnyddio rhai o’r technegau dadansoddiadol a drafodwyd yn ystod y modiwl. Fe ddylai’r myfyriwr chwarae rhan o’r gân yn y dosbarth ac fe fydd yr amser a gymerir i wneud hyn yn ychwanegol i’r 8 munud. Fe ddylai’r cyflwyniad drafod elfennau cerddorol sy’n perthyn i’r gân, geiriau a’u hystyr, ond mae lle i gynnwys rhywfaint o wybodaeth cefndirol hefyd. Fe fydd y cyflwyniadau yn cael eu recordio. Fe ddylai’r myfyriwr fod ar gael i gyflwyno yn y ddosbarth yn un o’r darlithoedd neu’r seminarau yn wythnos 10 neu 11. Dylai’r myfyriwr sicrhau fod y deunydd cyflwyno (e.e. sleidiau, nodiadau) yn cael eu uwchlwytho ar Blacboard. |
20 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Un-ar-ddeg darlith dwy awr o ran hyd (22 awr) ynghyd ag un-ar-ddeg seminar (11 awr). Fe fydd wythnos ddarllen yn ystod y semester dysgu (yr union wythnos i’w gadarnhau). |
33 |
Private study | 167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Re-creative skills – interpretation, innovation, versatility, and other skills relating to performance
- Creative skills – conception, elaboration, adaptation, presentation, collaboration, preservation
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Technological skills – digital capture, digital expression, digital innovation
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
- Enhanced powers of imagination and creativity (4.17)
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Fe fydd y modiwl yma’n cymeryd yn ganiataol fod myfyrwyr sy’n cyflwyno un ai recordiadau awdio neu gyfansoddiadau ar ffurf nodiant eisoes yn meddu ar ddealltwriaeth dda o sut i recordio lleisiau ac offerynnau ar feddalwedd recordio megis Logic neu Pro Tools (ar gyfer cyflwyniadau awdio) neu Sibelius a/neu MuseScore (ar gyfer cyflwyniadau mewn nodiant). Ni fydd digon o amser yn ystod y modiwl yma i gyflwyno’r myfyriwr i dechnoleg recordio neu feddalwedd prosesu cerddoriaeth, er mae’n bosib y bydd na drafodaeth ar rai agweddau ohonynt o bryd i’w gilydd. Fe fydd mynediad ar gael i’r stiwdios cerddoriaeth i’r rhai hynny sy’n dymuno recordio eu caneuon ar gyfer y modiwl. Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd i drefnu a bwcio amseroedd i fynd mewn i’r stiwdios mewn digon o amser i recordio a chyflwyno eu gwaith.
Rhestr ddarllen
Dim rhestr ddarllen ar gyfer y modiwl yma am ei fod yn fodiwl creadigol.
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 2 (BA/ACC)
- WW93: BA Creative Studies and Music year 2 (BA/CSTMUS)
- 32N6: BA English Literature and Music year 2 (BA/ELM)
- 32N7: BA English Literature & Music with International Experience year 2 (BA/ELMIE)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 2 (BA/HCAC)
- VW13: BA History and Music year 2 (BA/HMU)
- VW14: BA History and Music with International Experience year 2 (BA/HMUIE)
- W3H6: BA Music and Electronic Engineering year 2 (BA/MEE)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 2 (BA/MHIE)
- W303: BA Music (with International Experience) year 2 (BA/MIE)
- PW33: BA Media Studies and Music year 2 (BA/MSMUS)
- RW13: BA Music/French year 2 (BA/MUFR)
- WR32: BA Music/German year 2 (BA/MUGE)
- WR33: BA Music/Italian year 2 (BA/MUIT)
- W300: BA Music year 2 (BA/MUS)
- WW38: BA Music and Creative Writing year 2 (BA/MUSCW)
- W30F: BA Music [with Foundation Year] year 2 (BA/MUSF)
- WW36: BA Music and Film Studies year 2 (BA/MUSFS)
- WR34: BA Music/Spanish year 2 (BA/MUSP)
- W3W4: BA Music with Theatre & Performance year 2 (BA/MUSTP)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 2 (BA/PRM)
- VW2H: BA Welsh History and Music year 2 (BA/WHMU)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 2 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 2 (BMUS/MUS)
- W32F: BMus Music [with Foundation Year] year 2 (BMUS/MUSF)
- H6W3: BSc Electronic Engineering and Music year 2 (BSC/EEM)