Modiwl CXC-2001:
Canu Llys
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Prof Peredur Lynch
Amcanion cyffredinol
Astudir y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef canu Taliesin ac Aneirin, Llywarch Hen a Heledd a bwrir golwg hefyd ar y modd y cafodd y canu mawl ei adfywio yn oes y tywysogion. Rhoddir hyfforddiant i drafod y testunau gwreiddiol, gan roi sylw i themâu a chynnwys y canu, ei ddyddiadau a'i gyd-destun cymdeithasol a chysyniadau llenyddol megis 'mawl' a 'chanu arwrol'.
Cynnwys cwrs
Astudir y farddoniaeth Gymraeg gynharaf, sef canu Taliesin ac Aneirin, Llywarch Hen a Heledd a bwrir golwg hefyd ar y modd y cafodd y canu mawl ei adfywio yn oes y tywysogion. Rhoddir hyfforddiant i drafod y testunau gwreiddiol, gan roi sylw i themâu a chynnwys y canu, ei ddyddiadau a'i gyd-destun cymdeithasol a chysyniadau llenyddol megis 'mawl' a 'chanu arwrol'.
Meini Prawf
trothwy
Medru diweddaru rhannau o'r testunau a astudir gyda chywirdeb cymharol a thrafod materion sy'n berthnasol iddynt
Dangos adnabyddiaeth o ganu llys Cymraeg, ei gefndir a'i gyd-destun
Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
da
Medru diweddaru rhannau o'r testunau a astudir gyda chryn gywirdeb a thrafod materion sy'n berthnasol iddynt
Dangos adnabyddiaeth dda o ganu llys Cymraeg, ei gefndir a'i gyd-destun
Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
ardderchog
Medru diweddaru rhannau o'r testunau a astudir gyda hyder a thrafod materion sy'n berthnasol iddynt
Dangos adnabyddiaeth gadarn o ganu llys Cymraeg, ei gefndir a'i gyd-destun
Dangos gallu cadarn i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
Dangos gallu cadarn i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
Dangos gafael gadarn ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Canlyniad dysgu
-
Gosod y testunau a drafodir mewn cyd-destun ehangach.
-
Trafod testun cynnar yn y dull ysgolheigaidd priodol.
-
Dangos adnabyddiaeth o ganu llys Cymraeg hyd at 1282.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Tasg 2 | 25.00 | ||
Tasg 3 | 25.00 | ||
Tasg 1 | 25.00 | ||
Tasg 4 | 25.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 170 | |
Lecture | 2 awr darlith x 10 |
20 |
Seminar | 1 awr seminar x 10 |
10 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 3 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 3 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)