Modiwl CXC-2107:
Barddoniaeth Fodern
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Jason Davies
Amcanion cyffredinol
strong textYn ystod y modiwl hwn byddwn yn astudio mewn trefn gronolegol farddoniaeth rhai o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, o T. Gwynn Jones ar ei dechrau hyd at Gwyn Thomas ar ei diwedd. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad o gerddi unigol, ceisir awgrymu cyfraniad pob un o'r beirdd dan sylw at ddatblygiad barddoniaeth Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ceisir dangos hefyd sut y dylanwadodd eu cerddi ar waith beirdd eraill yn ystod y ganrif. O'r herwydd, er mai modiwl yn cynnig astudiaeth ddethol yn hytrach nag un gynhwysfawr yw hwn yn ei hanfod, ni fydd prinder cyfeiriadau cymharol at amryw feirdd eraill wrth fynd heibio. Yn ogystal â thynnu sylw mewn darlithoedd at fanylion bywgraffyddol a hanesyddol o bwys, cyfeirir hefyd at gysyniadau arwyddocaol fel Rhamantiaeth a Moderniaeth. Ac er mor amrywiol yw gwaith y beirdd dan drafodaeth, un thema y cyfeirir ati droen yn ystod y modiwl yw'r cydchwarae parhaus a welir ym marddoniaeth y ganrif rhwng traddodiad a newydd-deb.
Cynnwys cwrs
Yn ystod y modiwl hwn byddwn yn astudio mewn trefn gronolegol farddoniaeth rhai o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif, o T. Gwynn Jones ar ei dechrau hyd at Gwyn Thomas ar ei diwedd. Trwy ganolbwyntio ar ddetholiad o gerddi unigol, ceisir awgrymu cyfraniad pob un o'r beirdd dan sylw at ddatblygiad barddoniaeth Gymraeg yn ystod y ganrif ddiwethaf. Ceisir dangos hefyd sut y dylanwadodd eu cerddi ar waith beirdd eraill yn ystod y ganrif. O'r herwydd, er mai modiwl yn cynnig astudiaeth ddethol yn hytrach nag un gynhwysfawr yw hwn yn ei hanfod, ni fydd prinder cyfeiriadau cymharol at amryw feirdd eraill wrth fynd heibio. Yn ogystal â thynnu sylw mewn darlithoedd at fanylion bywgraffyddol a hanesyddol o bwys, cyfeirir hefyd at gysyniadau arwyddocaol fel Rhamantiaeth a Moderniaeth. Ac er mor amrywiol yw gwaith y beirdd dan drafodaeth, un thema y cyfeirir ati droen yn ystod y modiwl yw'r cydchwarae parhaus a welir ym marddoniaeth y ganrif rhwng traddodiad a newydd-deb.
Meini Prawf
trothwy
Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gwybodaeth am rychwant o feirdd a'u cerddi a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu i ddadansoddi cerddi Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
da
Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gwybodaeth dda am rychwant o feirdd a'u cerddi a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu da i ddadansoddi cerddi Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
ardderchog
Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gwybodaeth sicr am rychwant o feirdd a'u cerddi a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu sicr i ddadansoddi cerddi Dangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Adnabod rhai o'r gwahanol fesurau, arddulliau a thechnegau a ddefnyddir gan feirdd.
-
Mynegi eu hatebion mewn iaith ac arddull dderbyniol.
-
Amgyffred rhai o brif dueddiadau a datblygiadau barddoniaeth Gymraeg yn ystod yr ungeinfed ganrif.
-
Gwybod sut i ymateb yn feirniadol i wahanol gerddi.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd | 50.00 | ||
Arholiad yn y cartref | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | 2 awr darlith x 11 |
22 |
Seminar | 1 awr seminar x 10 |
10 |
Private study | 168 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 3 (BA/CYM4)
- Q564: BA Cymraeg Proffesiynol (4 year) year 3 (BA/CYMPR4)
- Q563: BA Cymraeg Proffesiynol year 2 (BA/CYMPRO)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)