Modiwl WXC-1300:
Cerddoriaeth Ers 1850
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Gwawr Ifan
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i astudiaethau cerddolegol trwy arolwg o hanes cerddoriaeth rhwng 1850 a heddiw, ynghyd â chyfres o gweithdai ar sgiliau astudio.
Mae'r modiwl yn gwneud arolwg o weithiau mewn amrywiaeth o genres 'clasurol' a phoblogaidd. Gosodir newidiadau a datblygiadau mewn arddull gerddorol yn eu cyd-destunau hanesyddol, diwylliannol, cymdeithasol, daearyddol ac esthetaidd. Yn ogystal, mae myfyrwyr yn edrych ar nifer o weithiau yn fanwl mewn seminarau, gan eu hastudio fel testunau cerddorol drwy ddadansoddiad, ac ymchwilio i'r amgylchiadau o'u cyfansoddiad.
Cynnwys cwrs
Gallai rhestr o bwnciau darlith gynnwys: - Y cyfnod Rhamantaidd hwyr o safbwynt hanesyddol, cymdeithasol a cherddorol - Wagner a'r ddrama-gerdd - Y symffoni, 1850 ymlaen - Cerddoriaeth siambr y cyfnod rhamantaidd hwyr - Cenedlaetholdeb - Debussy ac Agraffedd - Stravinsky - Mecanyddiaeth - Cyfresiaeth gyflawn - Gwreiddiau roc a rôl - Cyfansoddwyr Cymru - Cerddoriaeth mewn diwylliannau lleiafrifol - Canu protest - Jazz ers 1950 - Strwythur y Diwydiant Pop - Cerddoriaeth ar y rhyngrwyd
Meini Prawf
ardderchog
A– i A**: Gwaith sy’n dangos gafael drwyadl ar y pwnc, gyda thystiolaeth o astudio pellach a meddwl cysyniadol dyfnach, gyda pheth gwreiddioldeb mewn dull ymdrin, ac wedi ei fynegi’n drefnus ac argyhoeddiadol.
da
C– i B+: Gwaith sy’n dangos gafael gadarn ar y pwnc, meddwl cysyniadol da, tystiolaeth o graffter deallusol, ac wedi ei fynegi’n glir a diddorol.
trothwy
D– i D+: Gwaith sy’n ddangos gwybodaeth gyfyngedig o’r pwnc, gyda gallu syml i feddwl yn gysyniadol, ychydig dystiolaeth o ymdriniaeth ddeallusol wirioneddol, ond a fynegir yn ddealladwy serch hynny.
Canlyniad dysgu
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu ymchwilio testunau ar hanes cerddoriaeth ar ei b/phen ei hunain.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu cyfathrebu syniadau yn effeithiol.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu adnabod repertoire penodol wrth y glust.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu arddangos gwybodaeth o amgylchiadau hanesyddol a diwylliannol sydd wedi effeithio ar gerddoriaeth a gyfansoddwyd rhwng 1850 a heddiw.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu arddangos gwybodaeth o weithiau, arddullau, genres, ac arweddion cerddorol mewn repertoire a gyfansoddwyd rhwng 1850 a heddiw.
-
Wedi cwblhau'r modiwl, dylai'r myfyriwr allu dadansoddi cerddoriaeth o berfformiadau a sgoriau.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
CLYWEDOL | Cyfranogiad i seminarau | 20.00 | |
PRAWF DOSBARTH | Prawf repertoire 1 | 10.00 | |
PRAWF DOSBARTH | Prawf repertoire 2 | 10.00 | |
TRAETHAWD | Traethawd 1 (byr) | 20.00 | |
TRAETHAWD | Traethawd 2 (hir) | 40.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Workshop | 5 gweithdy sgiliau astudio, 1 pob pythefnos, gan edrych ar sgiliau pwnc penodol a sgiliau trosglwyddadwy. |
5 |
Lecture | 22 o ddarlithoedd, 2 yr wythnos, awr yr un. |
22 |
Seminar | 6 seminar, 1 pob pythefnos, awr yr un. |
6 |
Private study | Gwrando paratoawl cyn y darlithoedd, darllen a gwrando paratoawl cyn y seminarau, ymchwil ar gyfer traethodau. |
167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Musicianship skills – recognition, classification, contextualisation, reconstruction, exploration
- Intellectual skills specific to Music – contextual knowledge, cultural awareness, critical understanding, repertoire knowledge, curiosity, analytical demonstration
- Intellectual skills shared with other disciplines – research and exploration, reasoning and logic, understanding, critical judgement, assimilation and application
- Skills of communication and interaction – oral and written communication, public presentation, team-working and collaboration, awareness of professional protocols, sensitivity, ICT skills, etc.
- Skills of personal management – self-motivation, self-critical awareness, independence, entrepreneurship and employment skills, time management and reliability, organisation, etc.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Nid oes goblygiadau i fyfyrwyr o ran adnoddau.
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/wxc-1300.htmlRhestr ddarllen
Mae'r rhestr ddarllen ar gael drwy Talis.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- W3P3: BA Astudiaethau'r Cyfr & Cherdd year 1 (BA/ACC)
- WW93: BA Creative Studies and Music year 1 (BA/CSTMUS)
- 32N6: BA English Literature and Music year 1 (BA/ELM)
- 32N7: BA English Literature & Music with International Experience year 1 (BA/ELMIE)
- VW23: BA Hanes Cymru a Cherddoriaeth year 1 (BA/HCAC)
- VW13: BA History and Music year 1 (BA/HMU)
- VW14: BA History and Music with International Experience year 1 (BA/HMUIE)
- WW39: BA Music and Creative Writing with International Experience year 1 (BA/MCWIE)
- W3H6: BA Music and Electronic Engineering year 1 (BA/MEE)
- WV33: Music & Hist & Welsh Hist (IE) year 1 (BA/MHIE)
- W303: BA Music (with International Experience) year 1 (BA/MIE)
- PW33: BA Media Studies and Music year 1 (BA/MSMUS)
- RW13: BA Music/French year 1 (BA/MUFR)
- WR32: BA Music/German year 1 (BA/MUGE)
- WR33: BA Music/Italian year 1 (BA/MUIT)
- W300: BA Music year 1 (BA/MUS)
- WW38: BA Music and Creative Writing year 1 (BA/MUSCW)
- W30F: BA Music [with Foundation Year] year 1 (BA/MUSF)
- WW36: BA Music and Film Studies year 1 (BA/MUSFS)
- W305: BA Music with Game Design year 1 (BA/MUSGD)
- W3P5: BA Music with Journalism year 1 (BA/MUSJ)
- WR34: BA Music/Spanish year 1 (BA/MUSP)
- W3W4: BA Music with Theatre & Performance year 1 (BA/MUSTP)
- VVW3: BA Philosophy and Religion and Music year 1 (BA/PRM)
- VW2H: BA Welsh History and Music year 1 (BA/WHMU)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- W304: BMus Music (with International Experience) year 1 (BMUS/MIE)
- W302: BMUS Music year 1 (BMUS/MUS)
- W32F: BMus Music [with Foundation Year] year 1 (BMUS/MUSF)
- H6W3: BSc Electronic Engineering and Music year 1 (BSC/EEM)