Cael trafferth i wneud aseiniad?
Syllu ar dudalen wen a gofyn i chi eich hun pam mae'n dal yn wag; syllu ar dudalen llawn geiriau a gofyn i chi eich hun pam nad ydynt yn gwneud synnwyr; gwybod beth rydych chi am ei ddweud ond yn methu â'i ddweud; methu deall am fod y fathemateg y tu hwnt i chi; ar goll pan mae'n dod yn fater o wneud synnwyr o brofion-t a chi-sgwâr; wedi drysu wyneb yn wyneb â'r holl ddata? Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio'n darparu cefnogaeth un-i-un er mwyn eich galluogi i leddfu eich pryderon am eich aseiniad a'ch pryderon astudio.
Sesiynau galw heibio ar fathemateg ac ystadegau
http://studyskills.bangor.ac.uk/maths_stats.php.cy
Apwyntiadau ysgrifennu unigol
http://studyskills.bangor.ac.uk/writing-app.php.cy
Gellir archebu apwyntiadau ar-lein ar www.studyskills.bangor.ac.uk/index.php.cy neu dros y ffôn ar 01248 382689.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2014