
Ymdrin ag Argyfwng Iechyd Meddwl
Gall arwyddion rhybudd bod rhywun yn teimlo fel lladd eu hunain gynnwys:
- Newid amlwg mewn ymddygiad, yn arbennig os yw’r person yn mynd yn dawedog ac i’w gragen.
- Mynegi teimladau o fethiant, anobaith a hunanhyder isel.
- Siarad am hunanladdiad, ddim eisiau byw neu ddim yn gweld dyfodol.
- Ddim yn edrych ar ôl eu hunain, fel peidio â bwyta neu edrych ar ôl eu hymddangosiad.
- Problemau gyda chysgu, yn arbennig deffro’n fuan iawn.
- Rhoi trefn ar eu pethau’n sydyn, e.e. cael gwared ar eiddo neu gymryd yswiriant bywyd.
- Dechrau ymddangos fel pe bai’n gwella o gyfnod o iselder.
Efallai y bydd y risg iddynt ladd eu hunain yn cynyddu drwy’r modd y maent yn ei ystyried a thrwy’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, a hefyd drwy brofiad blaenorol o’u hymdrechion eu hunain neu eraill i ladd eu hunain.
Oherwydd COVID-19, rydym wedi creu siart llif iechyd meddwl newydd, y mae angen ei dilyn os oes gennych bryderon ynglŷn â lles meddyliol a / neu ddiogelwch myfyriwr.
Ffynonellau Eraill o Gefnogaeth mewn Argyfwng:
Llinellau cymorth:
- C.A.L.L. – Llinell Gyngor a Gwrando Cymunedol
Rhadffôn 0800 132737 neu anfonwch neges destun 'help' i 81066 - Y Samariaid
Am ddim o unrhyw ffôn ar 116 123 - Y Llyfr Bach Glas o Rifau Buddiol
Wedi'i ddiweddaru 15.09.2020