Cefnogi rhywun arall

Gall myfyrwyr ganfod eu bod wedi ysgwyddo rôl gofalwr anweladwy, a’u bod yn rhoi lefel sylweddol o gefnogaeth anffurfiol i gyd-fyfyriwr. Weithiau bydd tiwtoriaid personol neu staff eraill hefyd yn canfod eu bod yn ysgwyddo'r rôl hon.

Mae’n bwysig iawn i’r rhai sy’n helpu, pwy bynnag y bônt, fod yn ymwybodol o’u hanghenion a’u cyfyngiadau eu hunain, ac i gael cymorth eu hunain. Gall y Cynghorwyr Iechyd Meddwl gynnig cefnogaeth a chyngor.
Mae bod yno i rywun arall yn rhan o’n dynoliaeth ac mae’n helpu i wneud y byd yn well lle, ond gall rhoi cefnogaeth i rywun arall fod yn flinedig yn emosiynol ac yn rhwystredig, a gall greu pryder sylweddol gan arwain o bosibl at ddicter a chasineb.

Gall gwybod bod rhywun yn hunan-niweidio, neu'n teimlo’n ddigon anobeithiol i feddwl am hunanladdiad, ennyn amrywiaeth eang o emosiynau, yn cynnwys ofn, dicter a diymadferthwch.

Dilynwch y 5 cam yma i sicrhau eich lles eich hun a'i gwneud yn haws i roi cefnogaeth i eraill:

1.  Byddwch yn realistig ynglŷn â’r hyn y gellwch ei gynnig.
2.  Cofiwch am eich cyfrifoldeb i edrych ar ôl eich hun. Peidiwch â theimlo bod rhaid i chi brofi cystal ffrind ydych chi drwy roi anghenion eich ffrind o flaen eich anghenion eich hun bob amser.
3.  Helpwch i greu rhwydwaith o gefnogaeth. Nid yw'n syniad da i chi fod yr unig neu brif gyfrwng cefnogaeth i'ch ffrind. Gallai'r baich fod yn ormod i chi a gallech golli golwg ar bethau'n wrthrychol hefyd. Eglurwch wrth eich ffrind ei bod yn bwysig bod ganddo/ganddi bobl eraill y gall droi atynt yn ogystal, a bod gennych chithau rywun y gellwch drafod materion â nhw pan fo angen.
4.  Anogwch eich ffrind i geisio cymorth proffesiynol. Gall fod yn help i archwilio’r hyn sy'n rhwystro rhywun rhag ceisio cymorth, a gall hynny helpu i oroesi'r rhwystrau hynny. Er enghraifft:

  • Os ydynt yn meddwl bod mynd at feddyg neu gynghorwr yn arwydd o wendid, anogwch hwy i weld bod ceisio help proffesiynol yn dangos eu bod yn cymryd cyfrifoldeb dros eu lles eu hunain.
  • Os ydynt yn poeni bod mynd am sesiynau cynghori yn eu gwneud yn 'od', ceisiwch normaleiddio hynny iddynt. Dywedwch wrth eich ffrind os ydych chi, neu eraill sy'n agos atoch, wedi cael cymorth drwy gwnsela.
  • Os nad ydynt yn meddwl y bydd hynny o gymorth, anogwch nhw i gadw meddwl agored: nid oes ganddynt unrhyw beth i'w golli o fynd at gynghorwr i gael sesiwn gychwynnol, a gallai wneud gwahaniaeth.
  • Os oes arnynt ofn cysylltu ag unrhyw un am gymorth, gallech gynnig aros gyda nhw wrth iddynt ffonio eu meddyg teulu neu'r gwasanaeth cwnsela. Efallai y byddent hefyd yn gwerthfawrogi pe baech yn cynnig eu hebrwng i'w hapwyntiad.

5.  Chwiliwch am gymorth i chi’ch hun - pan eich bod mewn sefyllfa anodd ac yn ansicr sut i'w rheoli, gall cael rhywun arall i rannu'r baich meddwl wneud byd o wahaniaeth.

Mae’r Cynghorwyr Iechyd Meddwl a’r Gwasanaeth Cwnsela Myfyrwyr yn cynnig sesiynau cefnogi i fyfyrwyr sy’n cefnogi myfyrwyr eraill.

Rydym hefyd yn fodlon cwrdd â staff i gynnig cefnogaeth a chyngor ar sut i helpu myfyrwyr sy'n cael trafferth gydag anawsterau iechyd meddwl.

Siarad am hunanladdiad

Gall rhywun deimlo fel lladd eu hunain ond ar yr un pryd beidio â bod eisiau marw; yr hyn maent yn ei ddymuno yw i’w poen a’u gofid ddod i ben, ac ni allent weld unrhyw ddihangfa arall o anobaith ymddangosiadol eu sefyllfa.
Gall pobl fynegi gwahanol raddau o amwysedd am hunanladdiad, ac efallai y byddant yn teimlo’n fwy tueddol o fod eisiau lladd eu hunain ar rai adegau nag eraill (er enghraifft, pan fyddant wedi bod yn yfed, neu pan fyddent yn clywed bod rhywun arall wedi lladd eu hunain).

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun o bosibl yn teimlo fel lladd ei hunain, ceisiwch eu hannog i siarad â rhywun ynglŷn â sut maent yn teimlo, a gwrando heb geisio codi eu calon na fychanu’r hyn a ddwedant mewn unrhyw ffordd.
Os yw’n bosibl, trafodwch unrhyw deimladau cymysg sydd ganddynt, a strategaethau i aros yn ddiogel neu ofyn am gymorth pan fyddant yn meddwl am hunanladdiad. Gall hyn gynnwys Cynllun Diogelwch neu fanylion cyswllt (fel  gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd; llinellau cymorth) i’r unigolyn eu cadw wrth law i allu eu defnyddio pan fyddant yn teimlo mewn perygl o hunanladdiad.

Deall Hunan-niweidio

Os yw rhywun yn hunan-niweidio, nid yw o reidrwydd yn golygu eu bod am gymryd bywyd eu hunain.

Mae rhai pobl yn defnyddio hunan-niweidio bwriadol fel strategaeth oroesi i’w helpu i ymdopi â phoen a gofid eithafol.

Gall rhywun ddefnyddio hunan-niweidio i liniaru neu allanoli poen emosiynol a theimlo rhyddhad dros dro.

Gall hunan-niweidio wneud i'r unigolyn gofidus deimlo ei fod â mwy o reolaeth ac yn gallu ymdopi.

Gall teimladau o drallod godi eto ac mae'r cylch yn ailadrodd ei hun.

Os ydych chi’n poeni am iechyd meddwl myfyriwr ac yr hoffech siarad â rhywun yn gyfrinachol, cysylltwch â 
cynghorwriechydmeddwl@bangor.ac.uk.

 

Wedi'i ddiweddaru 04.04.19