Ddim yn teimlo'n dda? Cysylltwch â
Galw Iechyd Cymru
Gallwch gael cyngor a gwybodaeth am iechyd drwy ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47. Gallwch ffonio unrhyw bryd gan ein bod yn agored 24 awr y dydd, bob dydd. Gallwch siarad â nyrs a all eich asesu dros y ffôn.
Gallwch hefyd ddysgu am sut i ofalu am eich iechyd y tymor hwn, gydag ychydig o gymorth gan ein gwefan Galw Iechyd Cymru. (ar gael ar eich ffôn, llechen, gliniadur, mhac neu pc).
Gallwch gael hyd i feddyg, deintydd neu glinig iechyd rhywiol yn eich ardal drwy ddefnyddio ein chwiliad am wasanaethau lleol.
Os ydych yn teimlo'n sâl gyda'r ddannodd, peswch/annwyd, taflu i fyny a mwy gallwch ddefnyddio ein gwirydd symptomau i weld beth ddylech ei wneud.
Gallwch hefyd ofyn cwestiwn am iechyd ar-lein.
Gallwch ein dilyn hefyd ar Twitter @NHSDirectWales ac ar Facebook.
Cliciwch yma i gael arweiniad cyflym i fyfyrwyr
Cliciwch yma i fynd i'r wefan Dewis doeth