Digwyddiadau
Arholiadau - Teimlo'r straen? Ydych chi'n teimlo pwysau arholiadau? Ydych chi eisiau dod o hyd i ffyrdd o leddfu straen? Ydych chi eisiau edrych ar ôl eich hunain ychydig yn well? Dewch i'r gweithdy 2 awr wedi ei hwyluso gan Llinos Morris, Cwnselydd, Gwasanaethau Llês. Cliciwch yma am wybodaeth pellach. Dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024 2.00yp - 4.00yp Ystafell Cyfarfod 1, Llawr Gwaelod, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg I neilltuo lle, cysylltwch drwy ebost i gwasanaethaulles@bangor.ac.uk neu dros ffôn i 01248 388520 |
Gweithdai Celf Myfyriol Gweithdai celf myfyriol wythnosol i’w cynnal mewn awyrgylch croesawgar, cyfle i hunanfyfyrio a cefnogi’ch llesiant. Mae pob gweithdy awr a hanner yn cynnig gweithgaredd celf unigol. Gall cyfranogwyr fynychu pob un o'r chwe gweithdy yn y gyfres, neu archebu lle ar gyfer sesiynnau unigol sydd o ddiddordeb Gweler rhaglen yma Bydd deunyddiau celf ar gael ond os oes gennych rai deunyddiau personol yr ydych yn mwynhau eu defnyddio mae croeso cynnes i chi ddod â nhw gyda chi. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o wneud celf, croeso cynnes i bawb. Dyddiau Gwener, 9:30-11yb, Ystafell Gyfarfod 1, Neuadd Rathbone rhwng 19/4/24 a 24/5/24 Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â ni gan yrru e-bost at: wellbeingservices@bangor.ac.uk gan roi eich enw, cyfeiriad e-bost prifysgol a rhif adnabod myfyriwr |
Grŵp Seicotherapi Celf 9:30-11:30yb - Ystafell Gyfarfod 1, Neuadd Rathbone Dyddiau Gwener rhwng 26.1.24 a 15.3.24 Defnyddiwch gelf i archwilio meddyliau a theimladau sydd efallai'n rhy anodd eu cyfleu mewn geiriau yn unig. Dewch i greu celf o fewn grŵp therapiwtig cefnogol i hwyluso gwneud penderfyniadau, hunanymwybyddiaeth a newidiadau cadarnhaol yn eich bywyd. Nid oes angen profiad celf blaenorol. Lawrlwythwch y daflen ddwyieithog yma am y manylio llawn. Ebostiwch wellbeingservices@bangor.ac.uk i gofrestru. |
Gweithdy Sgiliau Rheolaeth Emosiynol 15 Mai 2024 2.30yp-4.30yh Ystafell Cyfarfod 1, Neuadd Rathbone. Nod y gweithdy:
Manylion llawn ar gael yma. I neilltuo lle, cysylltwch â ni ar wellbeingservices@bangor.ac.uk gyda'ch rhif cyfeirnod myfyriwr, enw a rhif ffon cyswllt neu cysylltwch gyda ni dros y ffon i 01248 388520. |
Gweithdai 'Edrych ar ôl dy Ffrind' Fel rhan o'n Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles newydd dan Arweiniad Myfyrwyr, bydd y Brifysol yn darparu hyfforddiant ar gyfer gweithdai gofalu am eich ffrind i fyfyrwyr ar draws y Brifysgol. Mae gennym ddeg aelod achrededig o staff y Brifysgol o gefndiroedd gwahanol a fydd yn cyflwyno’r hyfforddiant drwy gydol y flwyddyn. Nod y gweithdy yw cefnogi a grymuso myfyrwyr sy'n cefnogi ffrindiau neu gyd-letywyr sy'n profi problemau iechyd meddwl. Ein nod yw cynghori myfyrwyr ar:
25 Ebrill 2024 2.00yp - 4.00yh
Lleoliad: Ystafell Cyfarfod 2, Llawr Gwaelod, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg. Os yr hoffech fwy o wybodaeth, cliciwch yma neu i neilltuo lle, cysylltwch gyda ni ar: wellbeingservices@bangor.ac.uk gyda'ch rhif cyfeirnod myfyriwr neu rhowch ganiad i ni ar: 01248 388520 |