Meddwl am adael? Gair o gyngor...
Ydych chi'n meddwl am adael neu gymryd egwyl o'ch astudiaethau / eu gohirio (e.e. am resymau iechyd)?
Os felly, argymhellwn yn gryf eich bod yn trafod y mater gydag aelod o staff cyn gwneud penderfyniad. Bydd yr aelod staff yn gwrando ar eich pryderon ac yn rhoi gwybodaeth i chi a allai eich helpu i oresgyn unrhyw broblemau, a byddant yn eich arwain drwy'r prosesau angenrheidiol unwaith y byddwch wedi gwneud penderfyniad.
Os oes gennych fisa Myfyriwr/Haen4 ac yn ystyried gadael, cymryd amser allan o gwrs astudio neu newid / prifysgol, cysylltwch â internationalsupport@bangor.ac.uk am arweiniad ar sut y gallai hyn effeithio ar eich Visa cyn gwneud hynny.
Yn achos Myfyrwyr Ôl-radd bydd yr ysgol academaidd yn ymdrin â'r broses a dylech wneud apwyntiad i weld eich Cyfarwyddwr Cwrs neu Oruchwyliwr i drafod y sefyllfa.
Yn achos Myfyrwyr Israddedig bydd Cynghorwyr Myfyrwyr y Tîm Cefnogi Myfyrwyr yn y Gwasanaethau Myfyrwyr yn ymdrin â'r broses. Awgrymwn serch hynny eich bod yn cysylltu â'ch Tiwtor Personol am arweiniad cychwynnol, yn enwedig o ran yr ystyriaethau academaidd sydd ynghlwm â gohirio eich astudiaethau.
Er bod Cefnogi Myfyrwyr yn gallu rhoi cyngor am Gyllid Myfyrwyr nid ydym yn delio ag ariannu gan y GIG. Os yw eich ymholiadau yn ymwneud a chyllid y GIG, bydd yn ddefnyddiol i chi edrych ar y telerau a'r amodau sy'n gysylltiedig â chynllun bwrsariaeth y GIG, a gellir gweld copi ohono yma.
Buasem yn falch o gael sylwadau gennych
Rydym yn croesawu eich sylwadau am y gwasanaeth a gewch, i'n helpu ni i ddatblygu a chynnig y gwasanaeth gorau posib yn awr ac yn y dyfodol.
Cysylltwch ag un o’r canlynol gyda'ch sylwadau:
Enw | Swydd |
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Myfyrwyr |
|
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Rheolwr Cefnogi Myfyrwyr |