Gwybodaeth i Gyrff Cyllido ac Aseswyr Lwfans Myfyrwyr Anabl
Cymorth anfeddygol ym Mhrifysgol Bangor
Mae gan Wasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb Prifysgol Bangor gynllun cymorth anfeddygol mewnol a gall ddarparu ystod o gefnogaeth. Dangosir ein cyfraddau ar gyfer y cyfnod 01/04/26 i 31/03/27 isod.
Myfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr Cymru
Cyfraddau cymorth anfeddygol Prifysgol Bangor (nid yw'r cyfraddau'n cynnwys TAW ac ni chodir TAW)
Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF
Ffôn: 01248 383022 neu e-bost gwaithcefnogi@bangor.ac.uk
| Cymorth | Cyfradd |
|---|---|
| Cefnogaeth sgiliau astudio a strategol un-i-un arbenigol | £58 yr awr |
| Mentor Arbenigol (pob math) | £53 yr awr |
| Cymryd nodiadau | £24 yr awr |
| Cymryd nodiadau arbenigol | £36.98 yr awr |
| Cefnogaeth gyda golwg | £22 yr awr |
| Cynorthwyydd Gweithdy / Labordy / Ymarferol | £22 yr awr |
| Cynorthwyydd Cefnogaeth Llyfrgell | £22 yr awr |
| Cymorth Symudedd Campws | £22 yr awr |
| Cynorthwyydd Ymarferol Arbenigol | £26.96 yr awr |
| Darllenydd | £22 yr awr |
| Ysgrifennwr | £22 yr awr |
Pob swyddogaeth cymorth anfeddygol arall nad ydynt wedi'u rhestru uchod: Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion.
Myfyrwyr a ariennir gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr
Cyfraddau cymorth anfeddygol Prifysgol Bangor (nid yw'r cyfraddau'n cynnwys TAW ac ni chodir TAW)
Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb, Prifysgol Bangor, Bangor, Gwynedd, LL57 2DF
Ffôn: 01248 383022 neu e-bost gwaithcefnogi@bangor.ac.uk
| Cymorth | Cyfradd |
|---|---|
| Cefnogaeth Sgiliau Astudio a Strategaeth Arbenigol un-i-un – Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth. | £58 yr awr |
| Cymorth Sgiliau Astudio a Strategaeth Un i Un Arbenigol – Anawsterau Dysgu Penodol. | £58 yr awr |
Pob swyddogaeth cymorth anfeddygol arall gan gynnwys Mentora Arbenigol (Mudandod Dethol-Iechyd Meddwl a Mudandod Dethol-Cyflyrau Sbectrwm Awtistiaeth): Mae Prifysgol Bangor yn gweithio mewn partneriaeth â Cymorth i Fyfyrwyr Randstad i gyflwyno cymorth anfeddygol.
Cyfraddau a mwy o wybodaeth.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynghylch cymorth anfeddygol, mae pob croeso i chi gysylltu â ni.
Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol
Dylai myfyrwyr a deiliaid cynigion gofrestru gyda'r Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb er mwyn gallu cydlynu eu cefnogaeth trwy Gynllun Cefnogi Dysgu Personol a fydd yn cynnwys addasiadau rhesymol sy'n ofynnol ar gyfer addysgu a dysgu, yn ogystal ag asesu.
Cofrestru i gael Cynllun Cefnogi Dysgu Personol.
Mae gan Wasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb Prifysgol Bangor dîm o gynghorwyr arbenigol gan gynnwys Cynghorwyr Anabledd, Cynghorwyr Iechyd Meddwl a Chynghorwyr Gwahaniaeth Dysgu Penodol sy'n cynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein wedi'u trefnu ymlaen llaw. Eu manylion cyswllt:
E-bost: gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 382032
Cyfraniad o £200 tuag at offer lwfans i fyfyrwyr anabl
Mae myfyrwyr yn cyfrannu'r £200 cyntaf tuag at offer a ariennir gan y lwfans i fyfyrwyr anabl. Os byddai'r cyfraniad hwn yn eu rhoi mewn caledi ariannol, cyfeiriwch nhw at y Gronfa Galedi
Cymorth Anfeddygol ym Mhrifysgol Bangor
Recordio darlithoedd
Mae darpariaeth recordio darlithoedd ar Panopto ar gael yn yr holl ystafelloedd dysgu mawr. Mae Panopto yn rhoi cyfle rhagorol i leihau neu oresgyn rhwystrau sy'n wynebu llawer o fyfyrwyr, yn cynnwys myfyrwyr anabl, yn enwedig mewn darlithoedd o fath traddodiadol.
Wrth ddefnyddio Panopto gofynnir i staff dysgu ym Mhrifysgol Bangor wneud recordiad sain o’r ddarlith fan leiaf a chadw sgrinluniau o'r sgriniau PowerPoint. Dylai'r sleidiau gydymffurfio â chanllawiau print clir y Brifysgol a dylid eu cyflwyno ar gyflymder addas.
Lle nad yw'r dulliau dysgu'n gydnaws â Panopto, bydd angen i staff dysgu ddefnyddio strategaethau cyfatebol ar gyfer darlithoedd a seminarau. Gallai’r rhain gynnwys:
- Darparu cwestiynau allweddol, brasluniau sesiynau neu sleidiau PowerPoint o leiaf 24 awr cyn y dosbarth, lle bynnag y bo modd.
- Darparu geiriau allweddol a fformiwlâu lle bo'n briodol (neu gyfeirio'r myfyriwr at destunau cefnogol/deunydd darllen priodol) o leiaf 24 awr cyn y dosbarth, lle bynnag y bo modd.
- Cynllunio'r man dysgu a'r trefniadau eistedd yn y ffordd orau bosib lle bo modd wrth ddysgu grwpiau llai (e.e. er mwyn hwyluso pethau i fyfyriwr sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau).
- Rhoi canllawiau clir ynghylch gwybodaeth ychwanegol/atodol y gall myfyrwyr eu defnyddio fel sail i astudiaeth bellach.