Tudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Darpariaeth Ffydd Lleol
- Adnoddau Caplaniaeth (a dolenni i wybodaeth ddefnyddiol)
- Tîm y Gaplaniaeth
- Cwrdd â tîm y Gaplaniaeth
- Gweddïau Fwslimaidd
- Newyddion a Digwyddiadau
- Myfyrdod yr Wythnos
- Profedigaeth
- Cymdeithas Staff Cristnogol Prifysgol Bangor
Cymdeithas Staff Cristnogol Prifysgol Bangor *
Mae'r Gymdeithas Staff Cristnogol yn grŵp sy'n cael ei redeg gan aelodau staff Prifysgol Bangor ac sy'n cael ei gymeradwyo gyda goruchwyliaeth a chefnogaeth aelodau Cristnogol y Tîm Caplaniaeth sy'n mynychu yn rheolaidd. Mae'n agored i bob aelod o staff Cristnogol waeth beth fo'u hymlyniad enwadol ac mae'n cyfarfod yn rheolaidd ar ddydd Mawrth am 1.00pm ar gyfer gweddïo, cyfeillgarwch a chyd-gefnogaeth. Ar hyn o bryd mae'r cyfarfodydd ar-lein trwy Microsoft Teams.
Mae'n bodoli i -
- Annog Staff Cristnogol
- Bod yn fynegiant o'n bywyd yng Nghrist trwy gariad, ffydd ac unplygrwydd
- Cefnogi ffydd ein gilydd trwy gyfrwng ein cyfarfod gyda'n gilydd a'n gweddi
- Gweddïo dros y Brifysgol (ei harweinyddiaeth, ei staff a'i myfyrwyr) a'r ardal leol
- Cyfrannu at lewyrch y Brifysgol
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Gymdeithas Staff Cristnogol neu fynychu ei chyfarfodydd, cysylltwch â Melanie Brown m.brown@bangor.ac.uk
* Mae'r Gymdeithas Staff Cristnogol yn rhan o ddarpariaeth y Tîm Caplaniaeth ar gyfer staff, a sefydlwyd mewn ymateb i gais a wnaed gan aelodau o Staff y Brifysgol. Byddem yn annog unrhyw staff a hoffai i'r Tîm Caplaniaeth sefydlu grŵp ar gyfer ffydd arall gysylltu â'r Tîm.