Therapi Celf a Chefnogaeth Llesiant
Ym Mhrifysgol Bangor, mae'r Gwasanaeth Llesiant a Chynwysoldeb yn cynnig cymysgedd o weithgareddau llesiant a therapi celf i gefnogi eich iechyd meddwl. Gallwch ymuno â gweithdai a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar feithrin llesiant cadarnhaol, neu gymryd rhan mewn sesiynau therapi celf os hoffech ffordd fwy dwys a chreadigol o archwilio eich meddyliau a'ch teimladau. Mae'r ddau yma i roi lle i chi ofalu amdanoch chi'ch hun a chael cefnogaeth yn ystod eich amser yn y brifysgol.
Gall bywyd prifysgol fod yn gyffrous ac yn werth chweil, ond gall hefyd ddod â heriau ar hyd y ffordd. Dyna pam mae gofalu am eich llesiant meddwl wrth astudio mor bwysig - mae'n eich helpu i gael y gorau o'ch amser yn y brifysgol a mwynhau profiad myfyriwr mwy cadarnhaol. Mae meithrin y sgiliau a'r arferion hyn nawr hefyd yn golygu y byddwch yn fwy parod i ofalu am eich llesiant ymhell ar ôl i chi raddio.
Eich Cynghorydd Llesiant
Mae Cynghorydd Llesiant Prifysgol Bangor yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i fyfyrwyr sy'n wynebu heriau bob dydd yn y brifysgol. P'un a ydych chi'n teimlo wedi'ch llethu, yn ynysig, neu angen rhywun i siarad ag ef, maen nhw yma i wrando, eich tywys a'ch helpu i reoli eich llesiant.
Yn unigryw, mae'r Cynghorydd Llesiant hefyd yn Therapydd Celf cymwys, sy'n cynnig:
- Ymyriadau creadigol, therapiwtig wedi'u teilwra i anghenion unigol
- Sesiynau therapi celf un-i-un
- Sesiynau grŵp sy'n annog mynegiant, cysylltiad a llesiant.
Maent hefyd yn cymryd rhan ragweithiol wrth hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol, datblygu mentrau ataliol ac ymgyrchoedd llesiant i gefnogi'r gymuned fyfyrwyr ehangach.
Gall y Cynghorydd Llesiant hefyd eich cyfeirio at wasanaethau mewnol neu allanol perthnasol, gan sicrhau eich bod yn cael y gefnogaeth gywir pan fydd ei hangen arnoch.
Therapi Celf
Beth Ydyw?
Mae therapi celf yn fath o seicotherapi sy'n defnyddio creadigrwydd, fel darlunio, peintio, neu greu delweddau, i'ch helpu i archwilio'ch meddyliau, teimladau a phrofiadau. Nid oes angen unrhyw sgiliau celf arnoch i gymryd rhan, mae'n ymwneud â mynegiant yn hytrach na chynhyrchu celf "dda", a bydd y Therapydd Celf yn eich tywys a'ch cefnogi drwyddo draw.
Sut All Helpu?
Gall therapi celf roi lle diogel i fyfyrwyr reoli straen, pryder, neu hwyliau isel, a gall fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi'n ei chael hi'n anodd rhoi emosiynau mewn geiriau. Gall eich cefnogi i ymdopi â phwysau academaidd, heriau perthynas neu deuluol, profedigaeth, neu gwestiynau ynghylch hunaniaeth a hunan-barch. Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn canfod ei fod yn eu helpu i feithrin gwydnwch, datblygu strategaethau ymdopi, ac ennill mwy o hunanymwybyddiaeth, a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ystod ac ar ôl y brifysgol.
Beth Sydd ar Gael?
Gallwch gael mynediad at sesiynau therapi celf un-i-un naill ai'n bersonol neu ar-lein, ac mae sesiynau grŵp therapi celf hefyd ar gael ar adegau penodol yn ystod y flwyddyn. Cynigir hyd at with sesiwn un-i-un wythnosol, fel arfer rhwng 9yb ac 1yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ble?
Cynhelir sesiynau wyneb yn wyneb yn yr Ystafell Therapi Celf yn Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg, Bangor. Cynhelir sesiynau ar-lein ar Microsoft Teams.
Gwyliwch y fideo yma am fwy o wybodaeth:
Gweithdai Llesiant
Mae amrywiaeth o weithdai llesiant ar gael i helpu myfyrwyr i ofalu am eu hiechyd meddwl a'u llesiant. Wedi'u cyflwyno gan y Cynghorydd Llesiant, mae'r sesiynau hyn yn cwmpasu ystod eang o bynciau ac wedi'u cynllunio i ddarparu gwybodaeth ymarferol, canllawiau a strategaethau y gallwch eu defnyddio yn eich bywyd bob dydd.
Nod y gweithdai yw eich darparu â'r wybodaeth a'r modd i reoli straen, meithrin gwydnwch a gwella eich llesiant yn ystod eich amser yn y brifysgol.
Mae'r awyrgylch yn y sesiynau hyn yn gynnes, yn groesawgar ac yn gefnogol, gan roi lle diogel i chi ddysgu ac ymgysylltu.
Cysylltwch â Ni
Ebostiwch gwasanaethaulles@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 388520 am fwy o wybodaeth neu i wneud apwyntiad.
Ebostiwch am fwy o wybodaeth ac i wneud apwyntiad drwy clicio yma.
Lawrlwythwch gopi o’n taflen Therapi Celf yma.
Beth sydd ar gael yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26: Am y wybodaeth ddiweddaraf am therapi celf a gweithdai lles ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, cymerwch olwg ar y llyfryn Sway Eich Llesiant. |
Gweithgareddau a Mwy o Wybodaeth: Dysgwch fwy am Therapi Celf, ei hanes, beth ydyw, yr hyfforddiant sydd ei angen i ymarfer, lleoliadau gwaith therapyddion celf a gair gan ein therapydd celf Gwawr Wyn Roberts. Gall cadw dyddlyfr gweledol fod yn ffordd dda o gefnogi eich ymarfer hunanofal, lawrlwythwch gopi o'n taflen waith yma i ddysgu mwy am sut i ddechrau dyddlyfr gweledol eich hun. Lawrlwythwch gopi o’n taflen celf ymdopi â newid – gorffen yn y brifysgol yma i’ch cefnogi pan ddaw’n amser gadael y brifysgol. Lawrlwythwch gopi rhad ac am ddim o’r llyfryn ‘Adfyfyrio Drwy Gelf’ yma os yr hoffech ysbrydoliaeth i greu celf eich hun. Gall natur gael effaith gadarnhaol ar les, lawrlwythwch gopi o'n llyfryn Natur a Lles yma i ddysgu mwy am weithgareddau creadigol a all eich helpu i gysylltu â natur. Os byddwch yn mynychu therapi celf ar-lein darllenwch y daflen wybodaeth ddefnyddiol yma i’ch helpu i baratoi ar gyfer eich sesiynau. Dyma lyfryn gwaith ar gyfer myfyrwyr PhD sy’n edrych ar bwysigrwydd gwytnwch yn ystod y daith ddoethurol. Mae'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol yn ogystal a chyfres o weithgareddau celf cefnogol: Gwytnwch mewn Ymchwil: Dulliau Creadigol ar gyfer Lles Meddyliol yn ystod y Daith Ddoethurol
|