Cynllun Datblygiad Personol i Fyfyrwyr Ôl-raddedig
Hoffech chi gael..
- Cydnabyddiaeth am eich gweithgareddau cyd ac all-gyrsiol?
- Defnydd o raglen datblygiad personol ar-lein yn rhad ac am ddim?
- Trawsgrifiad o’ch llwyddiannau i ddangos i ddarpar gyflogwyr?
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor ar gael i fyfyrwyr ar gyrsiau ôl-radd trwy ddysgu; mae’n cynnig rhaglen datblygiad personol a phroffesiynol ac mae'n eich galluogi i gofnodi eich cyfranogiad i weithgareddau a digwyddiadau sy'n ehangu eich sgiliau a'ch galluoedd.
Mae’n gynllun hyblyg sydd wedi ei ddylunio i ategu a gweddu o amgylch eich cwrs academaidd.
I gofrestru, bydd angen i chi fynychu un o’r sesiynau anwytho isod neu cysylltu efo cyflogadwyedd@bangor.ac.uk
Hydref 23ain, 12:00-13:00, Darlithfa 3, Prif Adeilad y Celfyddydau
Tachwedd 14eg, 14:00-15:00, Alun A2:01
Rhagfyr 6ed, 13:00-14:00, Darlithfa 4 Prif Adeilad y Celfyddydau
Myfyrwyr PhD
Mae’r cynllun GCB Ymchwilydd ar gael i fyfyrwyr PhD ac MRes. Os hoffech fwy o wybodaeth am y cynllun yma, cysylltwch gyda cyflogadwyedd@bangor.ac.uk os gwelwch yn dda.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018