Dathliad Cyflogadwyedd
Hoffai tîm Gwobr Cyflogadwyedd Bangor eich gwahodd i Ddathliad Cyflogadwyedd, cyfle i ddathlu a llongyfarch myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd camau positif i wella eu cyflogadwyedd a'u rhagolygon gyrfa.
Bydd cyflwyniadau gan fyfyrwyr am sut mae eu profiadau yn y brifysgol wedi eu helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol, a bydd Gwobrau Rhagoriaeth y GCB yn cael eu gwobrwyo i fyfyrwyr sydd wedi cael eu enwebu gan eu ysgol academaidd am ymrwymiad rhagorol i gyflogadwyedd.
5:30yh – Diod a lluniaeth ysgafn
6:00yh – Gwobrau a cyflwyniadau myfyrwyr
Cysylltwch gyda cyflogadwyedd@bangor.ac.uk i gadarnhau eich lle.
Dyddiad cyhoeddi: 20 Ebrill 2018