Diogelu eich tŷ
Cofiwch sicrhau bod pob un o'r ffenestri a'r drysau wedi eu cloi ac yn saff cyn gadael am wyliau'r Nadolig, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn gwneud hyn. Os oes gennych unrhyw beth gwerthfawr, cadwch nhw'n ddiogel allan o'r golwg.
Gwnewch yn siŵr bod y gwres wedi ei osod i ddod ymlaen yn rheolaidd, cofiwch fod gwres isel cyson yn well na chyfnodau byr o wres uchel, ac wrth gwrs gofalwch fod digon o gredyd yn y mesurydd os oes gennych un.
Rhowch wybod i'ch landlord pryd y byddwch yn gadael a beth yr ydych yn bwriadu ei wneud gyda'r system wresogi.
Mwynhewch y gwyliau ac fe'ch gwelwn yn y flwyddyn newydd.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2014