Eich gwahoddiad i ymuno â Marchnad Myfyrwyr Cymru
Mae'n bleser gennym eich gwahodd i ymuno â chyfle newydd cyffrous yn nhymor yr ŵyl eleni.
Gan ddechrau o'r mis hwn, gallwch ymuno â channoedd o fyfyrwyr a graddedigion ledled y wlad sy'n cymryd rhan ym Marchnad Myfyrwyr Cymru. Mae'r farchnad ar-lein hon, a ffurfiwyd mewn cydweithrediad â Phrifysgolion a Cholegau ledled Cymru, yn gyfle i hyrwyddo'ch busnes neu'ch cynhyrchion ar-lein fel y gallwch arddangos eich sgiliau creadigol neu ddatblygu profiad masnachu.
Mae ceisiadau'n agored o heddiw ymlaen felly peidiwch ag aros - gwnewch gais heddiw!
Bydd y wefan yn agored ar gyfer siopa Nadolig o 23 Tachwedd. P'un a fyddwch yn gwerthu neu'n siopa, dangoswch eich cefnogaeth i fyfyrwyr eraill trwy ledaenu'r gair. Y lle gorau eleni i gael rhywbeth unigryw i'w roi o dan y goeden (neu arni!) yw www.walesstudentmarket.co.uk!
Ho ho hwyl,
Tîm Marchnad Myfyrwyr Cymru
Dilynwch y newyddion diweddaraf:
[CYM] facebook Instagram twitter
Dyddiad cyhoeddi: 13 Tachwedd 2020