Gyrfaoedd Peirianneg yn y Diwydiant Llwythwyr Lorïau
Yn ddiweddar, mae Prifysgol Bangor wedi ffurfio partneriaeth â Chymdeithas Cynhyrchwyr a Mewnforwyr Llwythwyr Lorïau (ALLMI), a chreu amryw o gyfleoedd posibl mewn diwydiant hynod arbenigol a deinamig.
Mae diwydiant llwythwyr lorïau'r Deyrnas Unedig, yr hwn y mae ALLMI yn ei gynrychioli, yn chwarae rhan ganolog wrth hwyluso gweithgareddau llwyth o sectorau sy'n hanfodol i'r economi, gan gynnwys adeiladu, seilwaith, telathrebu ac amaethyddiaeth, cludiant, manwerthu a'r cyfleustodau, a mwy. Mae'r diwydiant yn esblygu'n gyflym, ac mae gweithgynhyrchwyr craeniau'n defnyddio dulliau cynyddol arloesol i wella defnydd a diogelwch eu peiriannau, ac maen nhw'n mabwysiadu'r technolegau diweddaraf ym maes peirianneg, trydan a thelemateg.
Mae angen sgiliau eang i'r diwydiant lwyddo, ac mae nifer o gyfleoedd i unigolion gweithgar, uchelgeisiol sydd am wneud marc gwirioneddol ac uniongyrchol mewn maes cyflogaeth blaengar sy'n meithrin ac yn gwobrwyo talent.
Mae aelodaeth o ALLMI yn cwmpasu pob agwedd ar y diwydiant llwythwyr lorïau, sy'n cynnwys gweithgynhyrchwyr craeniau, busnesau gwasanaethau atgyweirio, cyflenwyr offer ategol, perchnogion fflyd a gweithredwyr safleoedd; ac mewn sector lle mae diogelwch, proffesiynoldeb ac arloesi yn hollbwysig, mae ALLMI yn arwain y ffordd.
Yn sgil ffurfio'r bartneriaeth hynod hon, byddai'r gweithgynhyrchwyr/gwasanaethau atgyweirio sy'n aelodau o ALLMI yn croesawu 'ceisiadau hapfasnachol' am interniaethau a chyflogaeth ôl-raddedig gan fyfyrwyr peirianneg Prifysgol Bangor. Felly, gwelerwww.allmi.com i wybod mwy am y diwydiant llwythwyr lorïau, a chliciwch yma i weld rhestr lawn o gwmnïau sy'n aelodau o ALLMI i chi gysylltu â nhw.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2019