Wythnos Cyflogadwyedd: Neges Dydd Iau
Chwilio am gyfleoedd gwaith lleol, cenedlaethol neu ryngwladol i fyfyrwyr a graddedigion?
Mae nifer o gyfleoedd yn cael eu hysbysebu drwy system TARGETconnect:
https://targetconnect.bangor.ac.uk/home.html
Ar y wefan, gallwch bori drwy swyddi, interniaethau a chyfleoedd gwirfoddoli, gallwch drefnu apwyntiadau cyngor gyrfaol, a gweld pa ddigwyddiadau Sgiliau a Chyflogadwyedd sy'n cael eu cynnal gydol y flwyddyn. Gallwch hefyd ddewis cael gwybod am y cyfleoedd diweddaraf yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi.
Os ydych chi ar Facebook, hoffwch ein tudalen er mwyn cael y newyddion a'r cyfleoedd diweddaraf yn eich ffrwd newyddion.
https://www.facebook.com/gyrfaoeddbangor
DS: Cliciwch ar gornel chwith isaf gwefan TargetCONNECT er mwyn cael y dudalen Gymraeg.
***********
Cynllun Profiad Gwaith GO Wales
Cafodd Project GO Wales: Cyflawni drwy brofiad gwaith, yng Ngwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol, ei sefydlu i helpu myfyrwyr sy'n wynebu rhwystrau o ran cael gwaith baratoi ar gyfer y byd gwaith trwy drefnu profiad gwaith hyblyg gyda chyflogwyr lleol.
Gall Cynghorwyr y Project weithio gyda chi er mwyn:
- Penderfynu ynghylch y dewisiadau gorau ar gyfer profiad gwaith
- Dewis cyfnod cyfleus
- Gwneud y trefniadau i gyd
I gael eich ystyried ar gyfer y project mae'n rhaid i chi fod yn 24 neu'n iau pan wneir y cais, ac mae meini prawf cymhwysedd eraill hefyd sydd i'w gweld yma:
https://www.bangor.ac.uk/careers/students/go-wales.php.cy
Diddordeb? Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gymwys ac yn dymuno cwrdd â chynghorydd, e-bostiwch: gowales@bangor.ac.uk a gallwn drefnu apwyntiad.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mawrth 2019