Wythnos Cyflogadwyedd: Neges Dydd Mawrth
Cynllun Interniaeth Israddedig Prifysgol Bangor
Bydd 12 cyfle i ennill profiad gwaith o lefel graddedig a thaladwy (hyd at 150 awr yr un) ar gael mewn amryw o ysgolion ac adrannau y Brifysgol. Bydd cyfleoedd yn amrywio o waith ymchwil i farchnata, ac o drefnu digwyddiadau i waith ymchwil i enwi dim ond rhai. Nid oes angen profiad blaenorol i gael eich ystyried, dim ond diddordeb, gwybodaeth a brwdfrydedd ar gyfer yr interniaeth!
Mae’r cyfleoedd nawr ar gael i chi bori drwyddynt ac i wneud cais erbyn 1yp, Dydd Gwener, Ebrill 5ed.
https://my.bangor.ac.uk/employability/internopps.php.cy
Sesiynau Gwybodaeth am y Cynllun Interniaeth
15:00-16:00, Dydd Iau, Mawrth 28ain, Ystafell 2.01 Adeilad Alun (Sesiwn Cyfrwng Saesneg)
16:00-17:00, Dydd Iau, Mawrth 28ain, Ystafell 2.01 Adeilad Alun (Sesiwn Cyfrwng Cymraeg)
Bydd y sesiynau gwybodaeth yn ymdrin a gwybodaeth allweddol am y cynllun, cyngor ar sut i wneud eich cais, a chyfle i ofyn cwestiynau (nid oes angen archebu lle).
Mae manylion pellach am y cynllun a sut i wneud cais ar gael yma: https://my.bangor.ac.uk/employability/internapplicants.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2019