Chwilio am dŷ? Byddwch yn barod i fod yn anodd eich plesio!
Mae ystafelloedd ar gael gan nifer o landlordiaid ym Mangor, felly does dim angen i chi frysio, na bodloni ar lety o ansawdd gwael neu lety sy'n cael ei reoli'n wael. Peidiwch â chael eich twyllo gan gimics!
Mae rhestr y Brifysgol o dai myfyrwyr wedi cael ei ryddhau bellach ond #PeidiwchAgArwyddoEto
Wrth gymryd tŷ oddi ar restr y Brifysgol o landlordiaid cofrestredig, rydych yn gwybod:
- Bod y landlord wedi cytuno â'r Amodau Cofrestru. Rydym wedi tynnu'r landlordiaid / asiantau nad yn cadw at yr amodau oddi ar ein rhestrau.
- Eu bod wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru a bod y person sy'n rheoli'r eiddo wedi gwneud cais am drwydded (sy'n golygu eu bod nhw neu eu hasiant wedi cael hyfforddiant ynglŷn â'u hawliau a'u cyfrifoldebau wrth rentu eiddo i denantiaid).
- Lle bo angen, bod gan yr eiddo sy'n cael ei hysbysebu dystysgrif diogelwch nwy a bod cais wedi ei wneud am Drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth (sy’n golygu bod y Cyngor wedi archwilio'r eiddo neu y bydd hynny’n digwydd).
Felly, os ydych yn chwilio am lety, ewch i wefan y Swyddfa Tai Myfyrwyr: www.bangor.ac.uk/studentservices/studenthousing
Dyddiad cyhoeddi: 13 Rhagfyr 2016