Cyfeirio myfyrwyr
Gellir cyfeirio myfyrwyr i’r Ganolfan Sgiliau Astudio i gael cyngor cyfrinachol am ysgrifennu, sgiliau astudio, a rhifedd/ystadegau trwy raglen diwtorial un i un y Ganolfan. I gyfeirio myfyriwr, cwblhewch ein ffurflen gyfeirio ar-lein.
Unwaith bydd myfyriwr wedi ei gyfeirio byddwn wedyn yn cysylltu â nhw i drefnu apwyntiad. Fel rheol caiff apwyntiadau eu trefnu a’u mynychu o fewn saith diwrnod ar ôl cyfeirio. Os bydd y myfyriwr yn dod i’r apwyntiad, byddwn yn gofyn am eu caniatâd i anfon neges atoch i ddweud eu bod wedi bod yn bresennol. Os na fyddwch wedi clywed dim byd gennym o fewn tair wythnos, byddai’n well i chi gysylltu â’r myfyriwr.
Mae’r Ganolfan yn cynnal gweithdai ysgrifennu a sgiliau generig trwy gydol y flwyddyn academaidd, a nawr gall myfyrwyr archebu eu lle ar-lein ar ein rhaglen Semester Un. Yn ogystal â hyn, rydym wedi datblygu adnoddau rhyngweithiol a gynlluniwyd i helpu myfyrwyr i weithio mewn dwy iaith ac i osgoi llên-ladrata, a gellir gweld yr adnoddau hyn, ynghyd ag adnoddau eraill, ar ein gwefan. Mae ein gwasanaeth apwyntiadau mathemateg ac ystadegau yn ailddechrau’n llawn ar Fedi 29ain.
Rydym yn cydweithio’n agos â staff academaidd i integreiddio hyfforddiant sgiliau o fewn y cwricwlwm is-raddedig ac ôl-raddedig (lefel meistr). Canfu dadansoddiad ystadegol o effaith fod cydweithio rhwng ysgolion academaidd a’r Ganolfan Sgiliau Astudio wedi arwain at gyrhaeddiad uwch. Os hoffech chi archwilio sut y gallai’r Ganolfan gefnogi eich myfyrwyr chi, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o’n tîm.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2020