Cyfres Ysgrifennu ymchwil a thraethawd hir
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o bum gweithdy rhyngweithiol wedi'u hanelu at fyfyrwyr sy’n ystyried eu traethawd hir yn ogystal â’r rhai sy’n paratoi ymchwil cefndirol. Mae’r gyfres hon sy’n rhad ac am ddim, yn darparu cyfle ymarferol i: (a) ddatblygu eich targedau ymchwil, (b) i reoli eich ymchwil, (c) i ystyried dulliau o ymdrin ag adolygu ffynonellau, (ch) i lunio crynodeb, ac i (d) archwilio beth sy’n gwneud rhagarweiniad pwrpasol. I gael amlinelliad llawn o’r gweithdai ewch i’n gwefan:
http://studyskills.bangor.ac.uk/digwyddiadau.php.cy
Ysgrifennu ymchwil a thraethawd hir 1: Diffinio eich Pwnc
26.01.15 ac wedi’i ailadrodd ar 29.01.15 (2:00–3:30)
A yw bwriad eich ymchwil yn gyraeddadwy, a beth yw’r rhesymau dros ddilyn y trywydd hwnnw? Dyma ddau gwestiwn sy’n cael eu hystyried yn y gweithdy hwn wrth i ni weithio drwy’r broses o gynhyrchu cwestiwn ymchwil yn seiliedig ar eich pwnc dewisol chi.
Ysgrifennu ymchwil a thraethawd hir 2: Cynllunio eich traethawd hir
2.02.15 ac wedi’i ailadrodd ar 5.02.15 (2:00–3:30)
Mae’r gweithdy hwn yn edrych ar y syniad o 'archwiliad ymchwil' fel modd o nodi’r camau y bydd angen i chi eu cymryd i reoli eich prosiect ymchwil er mwyn ei gwblhau yn llwyddiannus.
Ysgrifennu ymchwil a thraethawd hir 3: Adolygu’r Llenyddiaeth
16.02.15 ac wedi’i ailadrodd ar 19.02.15 (2:00–3:30)
Yn y gweithdy hwn, rydym yn edrych ar bwrpas adolygiadau o lenyddiaeth gan ystyried hefyd sut mae’r adolygiad wedi ei leoli o fewn eich ymchwil. Rydym hefyd yn ystyried sut i lunio safbwynt awdurdodol tuag at y llenyddiaeth a sut i drefnu eich adolygiad yn y modd mwyaf effeithiol.
Ysgrifennu ymchwil a thraethawd hir 4: Ysgrifennu Crynodebau
23.02.15 ac wedi’i ailadrodd ar 26.02.15 (2:00–3:30)
Beth sy’n gwneud crynodeb da? Mae’r gweithdy yn bwriadu ateb y cwestiwn hwn drwy gymharu crynodebau o ystod o wahanol ddisgyblaethau gan ddod i gasgliadau ynghylch rhai o’r nodweddion craidd.
Ysgrifennu ymchwil a thraethawd hir 5: Ysgrifennu Rhagarweiniadau
2.03.15 ac wedi’i ailadrodd ar 5.03.15 (2:00–3:30)
Mae'r gweithdy hwn yn edrych ar swyddogaeth rhagarweiniad ysgrifenedig a’r hyn a wna awduron wrth gyflwyno’u gwaith i ddarllenwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ionawr 2015