Cymorth ariannol i Fyfywyr ôl-radd o dan 25 o'r DU
Mae Gwasanaethau Myfyrwyr wedi sicrhau i’r Brifysgol swm o arian o Gronfa Thomas Howell trwy gyfrwng y Drapers’ Company i’w ddosbarthu i fyfyrwyr ôl-radd o dan 25 oed sy’n wynebu caledi ariannol yn y flwyddyn academaidd 2014/15.
Meini prawf dyrannu:
- Myfyrwyr ôl-radd hyfforddedig o dan 25 o’r DU
- Cymorth i fyfyrwyr anabl sy’n wynebu caledi ariannol oherwydd eu hanabledd neu sydd yn wynebu costau cysylltiedig â’u cyrsiau nad ydynt yn dod o dan Lwfansau Myfyrwyr Anabl.
- Help tuag at gostau gofal plant i fyfyrwyr gyda dibynyddion ar incwm isel, neu i rieni unigol
- Cymorth i fyfyrwyr â chostau teithio uchel
- Cymorth i fyfyrwyr sy’n wynebu caledi annisgwyl yn sgil damwain, salwch, amgylchiadau teuluol
- Ystyrir rhoi cymorth tuag at gostau teithiau maes, gwaith ymarferol neu ysgrifennu traethawd hir/thesis lle mae myfyriwr yn wynebu caledi ariannol.
Os bydd myfyriwr yn bodloni un neu fwy o’r categorïau uchod nid yw hyn yn golygu bod ganddynt hawl awtomatig i gael grant. Rhaid i’r myfyrwyr hynny roi tystiolaeth bod eu hamgylchiadau ariannol yn teilyngu cymorth o’r gronfa.
Sut ydw i’n gwneud cais, a phryd?
Gall myfyrwyr wneud cais nawr a dylent ffonio neu ymweld â’r Uned Cymorth Ariannol i drafod eu sefyllfa. Rhaid i’r holl geisiadau fod ar ffurflen ddilys a dylid eu hanfon yn ôl i’r Uned Cymorth Ariannol gyda’r holl ddogfennau perthnasol wedi’u llungopïo cyn Dydd Gwener, 17 Ebrill 2015.
I gael ffurflen gais
Ffoniwch: 01248 38 3566 / 3637
Ebost: cymorthariannol@bangor.ac.uk
Ewch i: Llawr cyntaf, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mawrth 2015