Ffair Recriwtio Graddedigion Manceinion
Yn eich blwyddyn olaf neu’n dilyn cwrs Meistr? Chwilio am eich swydd raddedig, leoliad gwaith neu am gyfleoedd i rwydweithio?
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor yn trefnu bws i Ffair Recriwtio Graddedigion 2018 ym Manceinion ar Fai 9fed 2018. Mae Prifysgol Manceinion yn cynnal un o’r ffeiriau recriwtio graddedigion mwyaf yn y DU, gydag oddeutu 130 o gyflogwyr yn cynnig miloedd o gyfleoedd.
I gofrestru am y digwyddiad ac i weld y rhestr lawn o arddangoswyr ewch i: http://www.careers.manchester.ac.uk/events/gradfair/
Mae mynediad i’r ffair am ddim. Cost y bws yw £10 y pen - os gwelwch yn dda archebwch eich lle drwy’r siop ar-lein Prifysgol Bangor - https://bit.ly/2GUKRu9
Mae llefydd yn gyfyngedig iawn a chânt eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin caiff falu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ar 01248 382071 neu e-bostiwch gyrfaoedd@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ebrill 2018