Llwyddo wrth Ysgrifennu
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio wedi llunio dwy raglen o weithdai ar draws Semester 2: Cyfres Ysgrifennu Academaidd sy’n canolbwyntio ar ysgrifennu sy’n gysylltiedig ag aseiniadau, a Chyfres Traethawd Hir. Tua diwedd y semester cynhelir dau weithdy ychwanegol sy’n canolbwyntio ar y broses adolygu a rheoli arholiadau.
Mae ein gweithdai yn rhoi cyfle i archwilio arferion a strategaethau fydd yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddisgwyliadau academaidd ac i wella ansawdd y gwaith rydych chi’n ei gynhyrchu. Mae sgwrsio yn ganolog i’n dulliau o ymdrin â thasgau. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, a thrwy hynny’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu.
Cyfres Ysgrifennu Academaidd
Cynhelir y gweithdai 90 munud o hyd am 2 o’r gloch, ac nid oes angen archebu eich lle o flaen llaw:
- Rheoli eich astudiaethau (27 Ionawr a 2 Chwefror)
- Cael yr awen i lifo (4 a 8 Chwefror)
- Ysgrifennu brawddegau gwell (10 a 16 Chwefror)
- Cymryd nodiadau a darllen i bwrpas (18 a 22 Chwefror)
- Aralleirio ac osgoi llên-ladrad (24 Chwefror a 1 Mawrth)
- Sut i gryfhau eich dadl (9 a 15 Mawrth)
Cyfres Traethawd Hir
- Diffinio eich Pwnc (26 Ionawr a 3 Chwefror)
- Cynllunio eich traethawd hir (9 a 17 Chwefror)
- Adolygu’r Llenyddiaeth (23 Chwefror a 2 Mawrth)
- Ysgrifennu Crynodebau (8 a 16 Mawrth)
- Ysgrifennu Rhagarweiniadau (12 a 20 Ebrill)
Cyfres arholiadau
- Gwneud eich gorau mewn arholiadau (13 a 19 Ebrill)
- Adolygu munud olaf (4 Mai)
Am wybodaeth bellach a manylion am ystafelloedd ewch i: http://studyskills.bangor.ac.uk/digwyddiadau
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2016