Llwyddo yn eich arholiadau
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal gweithdy ‘Gwneud y gorau mewn arholiadau’ ar brynhawn Mawrth 27 Tachwedd, ac ar brynhawn Mercher 28 Tachwedd am 1 o’r gloch. Mae croeso i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. I archebu eich lle ar y gweithdai hyn, cofrestrwch yma: https://www.bangor.ac.uk/studyskills/workshops/rhaglen/2018-11.
Mae’r gweithdy hwn yn canolbwyntio ar strategaethau adolygu a thechneg arholiad. Byddwn yn archwilio dulliau llwyddiannus o baratoi ar gyfer cwestiynau arholiad ac yn ystyried sut fedrwch chi reoli eich amser ac anelu’n uwch, drwy edrych ar beth i’w wneud ar ddiwrnod yr arholiad ei hun.
Os na fedrwch chi fynychu’r gweithdy y tro hwn, mae gan wefan y Ganolfan Sgiliau Astudio (http://studyskills.bangor.ac.uk/study_exams.php.cy) lawer o wybodaeth i’ch helpu chi i lwyddo yn eich arholiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2018