Yn brin o arian?
Diben y Gronfa Galedi yw rhoi cymorth i fyfyrwyr sy’n wynebu argyfwng ariannol annisgwyl neu sydd angen cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer costau neilltuol na ddarperir ar eu cyfer o ffynonellau cyllidol statudol yn barod.
Cynhelir y cyfarfod olaf o’r grŵp dyrannu ar gyfer y Gronfa Galedi cyn gwyliau’r Nadolig dydd Iau, 11 Rhagfyr 2014.
Rhaid i unrhyw fyfyriwr sy’n dymuno gwneud cais lenwi a chyflwyno’r ffurflen gais gyda’r holl ddogfennau perthnasol i’r Uned Cefnogaeth Ariannol, Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr, Neuadd Rathbone ddim hwyrach na dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2014.
Oherwydd natur gyfyngedig y cyllid, rhoddir blaenoriaeth i’r myfyrwyr canlynol:
- Myfyrwyr anabl, yn arbennig lle na all y DSA ddarparu ar gyfer costau neilltuol ac nad oes cyfrifoldeb cyfreithiol ar y sefydliad i wneud hynny.
- Myfyrwyr gydag ymrwymiadau ariannol hanfodol yn barod, yn cynnwys dyledion blaenoriaeth (ni fydd gorddrafft banc a chardiau credyd yn cael ei ystyried yn ddyled flaenoriaeth fel rheol).
- Myfyrwyr blwyddyn olaf sydd mewn trafferth ariannol (yn cynnwys rhai sy’n methu gweithio oherwydd pwysau academaidd).
- Rhai sy’n gadael gofal.
- Rhai sy’n byw mewn cynteddau a myfyrwyr digartref eraill.
Ni chaiff myfyrwyr nad ydynt wedi cymryd y benthyciad myfyrwyr uchaf y mae ganddynt hawl iddo eu hystyried i gael cymorth o’r Gronfa Galedi. Os yw hyn yn berthnasol i chi, cysylltwch â’r Uned Cefnogi Myfyrwyr i gael cyngor a gwybodaeth.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’r Uned Cefnogaeth Ariannol ar:
Ffôn: 01248 383566 / 383637 neu e-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk
http://www.bangor.ac.uk/studentservices/moneyadvice
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2014